Beth yw’r ffordd orau i ni ddarparu gofal a chymorth cynaliadwy i helpu pobl hŷn i fyw bywydau hapusach a mwy boddhaus?

Gosod y blaenoriaethau ar gyfer ymchwil gofal cymdeithasol yng Nghymru

Beth yw nod y prosiect?

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru eisiau canfod y blaenoriaethau ymchwil ar gyfer gofal a chymorth cymdeithasol i bobl 65 oed a hŷn. Maent wedi lansio arolwg ar gyfer pobl 65 oed a hŷn yng Nghymru sydd wedi cael gofal neu gymorth, a gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr ac aelodau teulu sy’n rhoi’r gofal hwnnw.

Maent eisiau darganfod beth yw’r pryderon mwyaf, o safbwynt pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r bobl sy’n eu cefnogi.

Yna byddant yn gweithio gyda’r grwpiau hynny i flaenoriaethau’r rhai y maent yn credu sydd fwyaf pwysig i ymchwil fynd i’r afael â nhw. Y nod yw datblygu agenda ymchwil gofal cymdeithasol a fydd yn galluogi pobl hŷn yng Nghymru i fyw bywydau hapusach, mwy boddhaus.

Maent yn gweithio mewn cysylltiad â’r James Lind Alliance, gan ddefnyddio eu dull o flaenoriaethu ymchwil.

Sut i gymryd rhan

Cymerwch ran yn yr arolwg yma. Bydd yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac mae ar gael rhwng 8 Mehefin a 6 Gorffennaf 2020. Mae eich barn yn bwysig!

Os yw’n briodol, hoffem hefyd eich annog i’w ddangos i’r bobl hŷn yr ydych yn gweithio gyda nhw a’u helpu i gymryd rhan hefyd. Rydym yn hapus i dderbyn cyfraniadau yn seiliedig ar drafodaethau grŵp am gwestiynau’r arolwg, yn enwedig ar gyfer y bobl hynny nad ydynt yn gallu llenwi arolwg ar-lein. Rydym eisiau sicrhau bod ystod eang o leisiau’n cael eu clywed. Os ydych chi’n gallu gweithio gyda ni a chefnogi’r arolwg mewn unrhyw fodd, e-bostiwch healthandcareresearch@wales.nhs.uk.

Mae eich barn yn bwysig.

Wrth wneud ymchwil yn y dyfodol, rydym eisiau i’r ymchwil honno wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn yng Nghymru, a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth y maent yn ei gael. Mae eich profiadau chi a’ch cwestiynau chi am ofal cymdeithasol yn ganolog i’r prosiect hwn.

Diolch am eich cymorth.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru neu e-bostiwch healthandcareresearch@wales.nhs.uk

23/06/2020