Bu Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth - is-grŵp o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion - yn brysur yn codi cyfanswm o £103.17 ar gyfer elusen leol trwy werthu crefftau yn Ffair Nadolig Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig ar 24 Tachwedd 2017.

Penderfynwyd rhoddi’r arian a godwyd i Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais, i roi cymorth i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Cafodd y grŵp gyfle i gyflwyno siec i’r Ward, dydd Mawrth 23 Ionawr 2018 a chafodd y grŵp eu llongyfarch am eu gwaith.

Pwrpas cyffredinol Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth yw arwain prosiectau newydd a chyffrous sy’n ffocysu ar hawliau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac i rymuso a galluogi pobl ifanc i ddatblygu ymgysylltiad yn y gymuned.

Dywedodd Rebeca Davies, Gweithwraig Ieuenctid i’r Gwasanaeth, “Mae’n wych gweld pobl ifanc yn awyddus i adeiladu cysylltiadau cymunedol a chwarae rhan mor allweddol o fewn eu hardaloedd lleol. Mae’r grŵp Llysgenhadon yn cynnig platfform i bobl ifanc ddatblygu prosiectau a gweithgareddau, i ddatblygu cydlyniad cymunedol, ac wrth gwrs, i ddarparu cyfleoedd a sgiliau newydd i’n pobl ifanc. Mae’r criw wedi gweithio’n galed i greu’r holl grefftau er mwyn eu gwerthu yn y Ffair Nadolig lleol, ac wedi datblygu ac arddangos eu sgiliau arweinyddiaeth, arloesi a blaengaredd. Edrychwn ymlaen tuag at y fenter nesaf!”

Bydd prosiect nesaf y Llysgenhadon yn ffocysu ar hanes a threftadaeth ardal Aberystwyth, drwy ddefnyddio celf, ffotograffiaeth a mapio.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dechrau’n Deg a’r Tîm o Amgylch y Teulu, “Mae’n hyfryd i weld y Llysgenhadon ifanc yn chwarae rôl weithgar a phositif yn y gymuned. Maent wedi gwneud yn dda iawn i godi arian i Ysbyty Bronglais. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi’r Llysgenhadon. Dw i’n siŵr bydd eu prosiect nesaf yn llwyddiant mawr.”

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Wasanaeth dynodedig i bobl ifanc rhwng 11-25 oed yng Ngheredigion. Mae’n wasanaeth sy’n ymrwymo i gefnogi datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgiadol pobl ifanc drwy gymorth arbenigol a darpariaeth mynediad agored. Mae darpariaeth yn cynnwys Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, Gwaith Ieuenctid Allgymorth a Chlybiau Ieuenctid. Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

30/01/2018