Bydd Amgueddfa Ceredigion yn agor arddangosfa newydd ar 29 Ionawr 2022 o'r enw 'Symud Ymlaen, Edrych Ymlaen'.

Bydd yr arddangosfa yn arddangos gwaith gan grŵp o artistiaid o ganolbarth Cymru a Cheredigion, sef Y Llunwyr. Mae'n cynnig golwg newydd ar y cyfnod diweddar drwy annog y cyhoedd i ddechrau’r Flwyddyn Newydd gydag ymdeimlad o obaith ar ôl gaeaf heriol arall.

Mae 'Symud Ymlaen, Edrych Ymlaen' yn cynnwys gwaith newydd gan Y Llunwyr. Bydd yn rhoi cyfle i bobl sy'n caru Ceredigion ei gweld yn cael ei chynrychioli mewn celf drwy amrywiaeth o ddulliau creadigol. Bydd hefyd yn apelio at bobl sy'n chwilio am rywbeth i'w wneud yn Aberystwyth wrth i’r gwanwyn agosáu, ac yn rhoi cyfle i feddwl yn gadarnhaol am y dyfodol.

Grŵp o artistiaid o ganolbarth Cymru yw’r Llunwyr sy'n ymgynnull yn rheolaidd i drafod eu gwaith celf a datblygu eu harfer creadigol. Maent wedi'u lleoli yn Aberystwyth a'r cyffiniau, Felinfach, Llandrindod, Pant-y-Dŵr, Pennant a Rhaeadr Gwy, ac maent wedi cynnal dros ddeugain o arddangosfeydd ers sefydlu yn 2006. Mae'r grŵp yn cynnwys Jane Burnham, Lindsay Davies, Rosemary Fahimi, Philip Huckin, Kim James-Williams, Mike Laxton, Greteli Morton, Joanna Munro-Hunt, Patrick Owen, Catherine Smedley, Shelley Upton, Moira Vincentelli ac Ann Williams.

Symudodd y Llunwyr eu cyfarfodydd ar-lein yn 2020 lle buont yn trafod pwysigrwydd parhau i fod yn greadigol ac yn gosod heriau artistig i'w gilydd i ysbrydoli dulliau newydd o ymdrin â'u pynciau a'u deunyddiau, gan ddod â mwy o undod i'w gwaith fel grŵp. Roedd yr heriau'n aml yn ffordd hwyl o dynnu sylw oddi ar y pandemig, gydag un her yn cynnwys aelodau yn creu hunan-bortread yn arddull eu hoff artist.

Dywedodd y Llunwyr: “Mae ein harfer celf wedi bod yn angor mewn dyfroedd tymhestlog, ac rydym yn teimlo’n obeithiol am y flwyddyn i ddod. Gellir ystyried y gwaith celf yr ydym wedi’i greu yn ystod ac ar ôl y cyfnodau clo fel llinyn creadigol sy’n cysylltu gwahanol dymhorau a phrofiadau.”

Dywedon nhw am yr arddangosfa: “Athroniaeth y Llunwyr yw cefnogi, herio, cwestiynu a dathlu. Mae rhywfaint o'r gwaith y byddwch yn ei weld yn waith ar y gweill, yn rhan o'n teithiau parhaus i ddarganfod, arbrofi, edrych ar y byd a pharhau i symud. Rydym yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn mwynhau'r arddangosfa gymaint ag y gwnaethom fwynhau ei gwneud.”

Mae 'Symud Ymlaen, Edrych Ymlaen' yn dilyn yr arddangosfa hynod boblogaidd ‘Edeifion Dynol’, a oedd yn arddangos cwiltiau hanesyddol o gasgliad yr Amgueddfa ochr yn ochr â chwilt digidol a oedd yn cynnwys myfyrdodau gan y gymuned yng Ngheredigion.

Mae Amgueddfa Ceredigion ar agor o ddydd Iau i ddydd Sadwrn, 11:00 tan 4:00pm.

26/01/2022