Dros y misoedd diwethaf, mae grŵp o oedolion ag anableddau dysgu yng nghanolfan gwasanaethau dydd Canolfan Padarn, Llanbadarn wedi bod yn gweithio gydag artist llwybr celf lleol Jeni Pain (The Shed by the Stream). Fe wnaethant archwilio pwnc 'Blwyddyn y Môr' mewn seramig, gan gynnwys trafod yr hyn y mae'r môr yn ei olygu i ni, yr hyn rydym yn ei garu am Aberystwyth a'r materion sy'n ymwneud â llygredd plastig.

Mae'r manteision therapiwtig o ymgysylltu â chelf a gweithio gyda clai yn adnabyddus ac mae'r grŵp wedi canolbwyntio ar weithio ar y cyd, meithrin ysbryd o dîm a chynhwysiant, dysgu a defnyddio sgiliau newydd yn ogystal ag atgyfnerthu ac adeiladu ar sgiliau presennol, gan gydnabod a dathlu cyfranogwyr unigol a'u hamrywiaeth yn ogystal â herio rhagdybiaethau.

Gyda chefndir mewn gweithio ym maes anabledd dysgu, mae Jeni yn angerddol am y manteision o ymgysylltu â chelf a chyfrwng clai yn arbennig ar gyfer lles a'r cyfle i ddatblygu sgiliau a hyder unigolyn. Dywedodd Jeni, “Bu'n bleser gweithio gyda'r grŵp. Mae'n wych arddangos eu gwaith i bobl weld yr hyn rydym wedi'i gyflawni”.

Penllanw’r prosiect oedd arddangosfa o'r gwaith yn Swyddfeydd y Cyngor, Canolfan Rheidol, o 30 Gorffennaf i 3 Awst.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams sydd â chyfrifoldeb am Wasanaethau Oedolion, “Mae arddangosfa Canolfan Padarn yn dathlu ‘Blwyddyn y Môr’ yn ysblennydd ac roedd o’n glir i weld yr amser a’r gwaith aeth mewn i’w greu. Da iawn i’r holl dîm! Mae’n braf i glywed am y cyfleoedd cyfoethog yma sydd ar gael i’n ddefnyddwyr gwasanaeth.”

Er bod yr arddangosfa wedi dod i ben, gall eitemau gael eu prynu trwy gysylltu â Darren Phillips yng Nghanolfan Padarn ar 01970 624907.

 

22/08/2018