Pwy yw Tim Chwaraeon mwyaf gwybodus Ceredigion? Canfod yr ateb yw bwriad cwis newydd Ar Eich Marciau. Mae Cered a Ceredigion Actif yn gofyn i aelodau Clybiau Chwaeraon ar hyd a lled y sir ffurfio tîm i gynrychioli eu clwb yn y gystadleuaeth cwis newydd sbon i glybiau chwaraeon o’r enw “Ar Eich Marciau”.

Mae cwis chwaraeon dwyieithog Ar Eich Marciau yn cynnig cyfle prin i dynnu clybiau o wahanol gampau at ei gilydd i gymdeithasu a chael gwybodaeth defnyddiol i’w clwb oddi wrth Cered a Cheredigion Actif. Mae’r cwis hefyd yn gyfle i hybu’r Gymraeg a dwyieithrwydd ymysg clybiau chwaraeon mewn ffordd hwyliog a chynhwysol.

Fe fydd Ar Eich Marciau yn cymryd lle gyda thair rownd ardal ar gyfer gogledd, canol a de Ceredigion yn ystod mis Hydref ac yna fe fydd y rownd derfynol yn cymryd lle mewn lleoliad canolog dechrau mis Tachwedd:

  • Rownd Canol Ceredigion – Clwb Rygbi Aberaeron – Hydref 11, 7.30 y.h.
  • Rownd De Ceredigion – Clwb Bowlio Aberteifi – Hydref 18, 7.30 y.h.
  • Rownd Gogledd Ceredigion – Clwb Rygbi Aberystwyth – Hydref 25, 7.30 y.h.
  • Rownd Derfynol – Clwb Rygbi Aberaeron – Tachwedd 1, 7.30 y.h.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddod a chlybiau o wahanol feysydd chwaraeon at ei gilydd i gymdeithasu a chael hwyl ac i ennill gwobrau wrth gwrs! Edrychwn ymlaen i weld pa gamp fydd yn dod i’r brig ac yn codi cwpan Ar Eich Marciau eleni!”

Mae angen i glybiau ffurfio tîm o dri a chysylltu gyda Cered ar 01545 572 350 neu cered@ceredigion.gov.uk er mwyn cofrestru yn rhad ac am ddim erbyn dydd Gwener Hydref 4.

Cwis wedi ei anelu at oedolion yw Ar Eich Marciau ac mae croeso cynnes i glybiau o ba bynnag gamp gystadlu gan fod y cwestiynau yn amrywiol iawn. Croesewir mwy nag un tîm o bob clwb i gystadlu.

03/10/2019