A oes gennych chi eiddo hunangynhwysol gwag yng Ngheredigion ar hyn o bryd? Rydym yn chwilio am lety ar gyfer teulu o Afghanistan a gefnogodd ymyrraeth Prydain cyn i’r lluoedd gael eu galw'n ôl. Mae llawer o ddinasyddion Afghanistan yn dal i aros mewn 'llety pontio' nes y gellir dod o hyd i gartref mwy parhaol ar eu cyfer.

Mae’r Cyngor eisoes wedi adleoli un teulu yn y sir, ond mae trefniadau i ddarparu cartref i ail deulu wedi’u gohirio wrth geisio dod o hyd i ragor o lety.

Dylai'r llety fod o safon addas, yn hunangynhwysol, gyda chegin a chyfleusterau ymolchi digonol, a bydd angen iddynt fod ar gael am o leiaf 12 mis. Telir y rhent ar lefel Lwfans Tai Lleol (budd-dal tai).

Ym mis Awst 2021, ymunodd Cyngor Sir Ceredigion â chynllun y Swyddfa Gartref i adleoli dinasyddion Afghanistan sy’n agored i gael eu heffeithio gan sgil-effeithiau llywodraeth newydd Afghanistan.

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd Grŵp Adleoli Ffoaduriaid Ceredigion. Dywedodd: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r perchenogion eiddo yng Ngheredigion sydd wedi cynnig eu heiddo ers dechrau’r cynllun. Yn anffodus, oherwydd oedi yn y broses adleoli, nid yw’r llety a gynigiwyd ar gael bellach, sy’n golygu ein bod yn dal i chwilio am eiddo a fydd yn addas ar gyfer anghenion teulu.”

Os gallwch helpu neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Canolfan Gyswllt ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk a gofynnwch am y Cydlynydd Adleoli Ffoaduriaid.

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth i adleoli dinasyddion Afghanistan drwy’r Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid, ewch i: https://homeofficemedia.blog.gov.uk/2021/08/16/factsheet-uk-support-to-resettle-afghan-nationals/

02/02/2022