Mae Adroddiad Cynnydd wedi dangos bod ansawdd aer yng Ngheredigion yn parhau i fod gyda'r gorau yng Nghymru ar sail tri dangosydd ansawdd aer Llywodraeth Cymru. Cymeradwywyd yr adroddiad gan Gabinet y cyngor ar 28 Ionawr 2020.

Caiff ansawdd aer ei fonitro yng Ngheredigion ar gyfer pedwar o'r llygryddion aer allweddol, a chaiff y canlyniadau eu cymharu â safonau ac amcanion cenedlaethol ac Ewropeaidd.

Mae'r adroddiad yn dangos y cydymffurfiwyd â'r holl Safonau ac Amcanion Ansawdd Aer Statudol presennol ym mhob lleoliad yng Ngheredigion ac nid oes angen rheolaeth bellach ar unrhyw ardaloedd. Mae tueddiadau'n dangos bod crynodiadau rhai o'r prif lygryddion aer yn cwympo yn y sir.

Gareth Lloyd yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd. Dywedodd, "Mae pobl yn ymweld â Cheredigion am ei thirweddau hardd a’i awyr iach, felly mae'n wych cael y dystiolaeth bod gan Geredigion rai o'r ansawdd aer gorau yng Nghymru."  

Mae'r cyngor wedi lleihau ei allyriadau carbon 42% ers 2008, gan arbed y cyngor £4 miliwn i'w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau.

Bydd Cynllun Rheoli Carbon i leihau allyriadau carbon a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn parhau i gael ei ddatblygu yng Ngheredigion gyda'r nod o sicrhau bod allyriadau carbon y cyngor yn sero net erbyn 2030. Mae hyn yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru.

29/01/2020