Mae adroddiad newydd wedi dangos bod ansawdd aer yng Ngheredigion gyda'r gorau yng Nghymru. Mae lefelau rhai llygryddion aer yn cwympo yn y sir.

Mae Adroddiad Cynnydd ar Strategaeth Ansawdd Aer Ceredigion 2018 wedi dangos bod safonau ansawdd aer yn cydymffurfio â Deddf yr Amgylchedd 1995. Cymeradwywyd yr adroddiad gan Gabinet y cyngor mewn cyfarfod ar 19 Chwefror 2019.

Caiff ansawdd aer ei fonitro ar gyfer pedwar llygrydd aer allweddol, a chaiff y canlyniadau eu cymharu â safonau ansawdd. Mae tueddiadau'n dangos bod crynodiadau rhai o'r llygryddion aer yn cwympo yng Ngheredigion. Gellir gweld hyn yn Aberystwyth, lle mae lefelau nitrogen deuocsid yn disgyn ar ochrau ffyrdd a lle mae’r broblem ar ei gwaethaf.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw'r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd. Meddai, “Mae pobl wedi dod i Geredigion am olygfeydd hardd ac awyr iach. Mae'r data gennym bellach i ddangos mai Ceredigion yw un o'r llefydd gorau ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru.”

“Mae allyriadau carbon y cyngor wedi gostwng bron 45% ers 2007 ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn siŵr ein bod yn ei leihau ymhellach.”

Mae rhai heriau o ran ansawdd aer yng Ngheredigion yn parhau. Mae’n bosib y bydd canllawiau yn cael eu rhagori ar os mabwysiedir safonau newydd llymach yng Nghymru. Efallai na fydd yr heriau yng Ngheredigion yn gallu cael eu rheoli ar lefel leol.

Bydd yr adroddiad yn cael ei roi ar wefan y cyngor.

19/02/2019