Gyda'r haf ar ei ffordd, yn denu ymwelwyr i fwynhau arfordir cyfoethog bywyd gwyllt Ceredigion, mae'r Cyngor yn annog aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau arfordirol heb amharu ar fywyd gwyllt a chynefinoedd arbennig Bae Ceredigion. Daw'r alwad hon ar ôl i unigolion fynd yn agos at y dolffiniaid ym Mae Ceredigion yn ddiweddar a nofio yn eu mysg.

Mae Côd Ymddygiad Morol Ceredigion yn gofyn i ddefnyddwyr dŵr gadw pellter o 100 metr oddi wrth ddolffiniaid a llamidyddion y deuir ar eu traws yn y môr, ac i gadw pellter o 50 metr oddi wrth forloi ac adar môr sy'n nythu. Ni ddylai’r cyhoedd ar unrhyw gyfrif geisio bwydo, cyffwrdd neu nofio ymysg y dolffiniaid. Anifeiliaid gwyllt ydynt. Mae dolffiniaid yn fawr a phwerus a gallant dyfu hyd at bedwar metr o hyd. Yn ogystal ag achosi aflonyddwch sylweddol i'r anifeiliaid a'u gorfodi i gefni ar safleoedd bwydo pwysig, gall cyswllt agos hefyd wneud y bobl a’r dolffiniaid yn agored i glefydau.

Gall aflonyddu sawl gwaith achosi i'r dolffiniaid adael safleoedd bwydo pwysig a chwilio am ardaloedd mwy tawel. Gallai tarfu ar fwydo, gorffwyso a magu gael effaith hirdymor ar iechyd a lles dolffiniaid unigol a phoblogaethau ohonynt.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio, "Mae bywyd gwyllt Bae Ceredigion yn ased gwych i economi ein cymunedau arfordirol ac mae hefyd yn bwysig ynddo'i hun. Dyma’r rheswm ein bod yn gofyn i drigolion ac ymwelwyr fwynhau’r dolffiniaid ac edrych ar fywyd gwyllt o bellter diogel. Er ei bod yn ddealladwy bod temtasiwn i weld yr anifeiliaid yn agos, ni allwn beryglu tarfu ar fywyd gwyllt Bae Ceredigion ac o bosibl eu gyrru i ffwrdd. Dyma'r peth olaf y mae rhywun ei eisiau".

Sefydlwyd Côd Ymddygiad Morol Ceredigion gan Gyngor Sir Ceredigion dros ugain mlynedd yn ôl. Fe'i sefydlwyd mewn ymateb i bryderon y gymuned leol bod y dolffiniaid trwynbwl sy'n defnyddio'r dyfroedd hyn i fwydo, cymdeithasu a bridio yn dioddef mwy o bwysau oherwydd aflonyddwch gan y rhai sy'n mwynhau gweithgareddau dŵr adloniadol.

Gellir gweld Cod Morol Ceredigion ar-lein trwy http://www.cardiganbaysac.org.uk/cymraeg/?page_id=83

*Llun gan Jonathan Evans

12/06/2018