Bellach mae trigolion ledled Ceredigion sy’n amau bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn gallu rhoi gwybod amdano’n ddienw trwy ymgyrch newydd.

Mae Safonau Masnach Cymru wedi ymuno â’r elusen Crimestoppers i ddarparu gwasanaeth, sy’n galluogi aelodau’r cyhoedd i roi gwybodaeth gwerthfawr yn ddienw i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel ac yn iach.

Un o bum mater yw hwn y mae Safonau Masnach Cymru a Crimestoppers yn cydweithio arnynt. Maent am annog y cyhoedd i ddarparu gwybodaeth am bryderon sydd ganddynt 100 y cant yn ddi-enw. Os oes gennych wybodaeth ar unrhyw rai o’r canlynol, gallwch ddweud wrthynt yr hyn rydych chi’n gwybod:

  • Troseddau carreg y drws
  • Gwerthu cynnyrch â chyfyngiadau oedran
  • Nwyddau ffug
  • Masnachwyr diegwyddor

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Wasanaethau Cyllid a Chaffael a Gwasanaethau Diogelu'r Cyhoedd: “Rydym ni’n cefnogi Safonau Masnach Cymru a Crimstoppers yn yr ymgyrch gan ddechrau gyda tynhau ar bobl sy’n gwerthu tybaco anghyfreithlon. Erfynwn ar bobl i rannu unrhyw wybodaeth er diogelwch holl drigolion y sir.”

Dywedodd Helen Picton, Cadeirydd Safonau Masnach Cymru: “Rydym yn falch o fod yn cydweithio gyda Crimestoppers Cymru a rhoi modd i aelodau’r cyhoedd roi gwybod am y troseddau hyn yn ddienw. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon yn achosi niwed i gymunedau ar draws Cymru ac yn cefnogi troseddau cyfundrefnol ac yn tynnu arian o wasanaethau hanfodol. Mae hefyd yn annog ysmygwyr i barhau i ysmygu ac yn ysgogi plant i roi cynnig arni. Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon, gallwch chi helpu i roi pen ar y niwed y mae’n ei achosi trwy hysbysu Crimestoppers. Gall eich gwybodaeth helpu i gadw cymunedau ledled Cymru’n ddiogel ac yn iach.”

Mae Safonau Masnach Cymru yn cynrychioli'r 20 gwasanaeth Safonau Masnach yn Awdurdodau Lleol Cymru. Maent yn rhannu ymgyrchoedd gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ledled y wlad i amddiffyn defnyddwyr a diogelu busnes cyfreithlon.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn gwerthu tybaco anghyfreithlon ffoniwch CrimeStoppers ar 0800 555 111 neu ewch i http://crimestoppers-uk.org a soniwch wrthynt am yr hyn rydych yn ei wybod.

10/03/2021