Mae ymgynghoriad llifogydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr ar gyfer Dyffryn Teifi wedi’i ymestyn hyd at 31 Awst 2022.

Mae’r ymgynghoriad ar-lein a aeth yn fyw ar 06 Mehefin wedi’i ymestyn oherwydd yr angen i gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb i ategu’r ymgynghoriad hwn er mwyn rhoi cyfle i’r cyhoedd siarad â chynrychiolydd o’r holl bartneriaid cysylltiedig.

Mae lleoliadau ar gyfer y cyfarfodydd hyn wedi'u trefnu ar gyfer Llandysul/Pont-Tyweli a Llanybydder fel a ganlyn;

• Dydd Mercher 24 Awst 2022, 10am i 1pm a 3pm i 6pm, y Pwerdy, Llandysul/Pont-Tyweli
• Dydd Iau 25 Awst 2022, 10am i 1pm a 3pm i 6pm, Clwb Rygbi Llanybydder

Bydd swyddogion o Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Gâr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a chynrychiolydd o’r ymgynghorydd a gyflogir gan y ddau awdurdod ar gael yn y lleoliadau i ateb unrhyw ymholiadau.

Mae pob partner sydd ynghlwm â hyn eisiau deall yr effaith y mae llifogydd yn ei chael ar gymunedau, sut mae’r llifogydd yn digwydd, ac asesu gwahanol fesurau a fydd yn lleihau’r effaith yn ystod y tywydd cynyddol stormus a fydd yn y dyfodol.

Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu sylwadau a’u hadborth yn bersonol drwy ysgrifennu eu sylwadau a’u rhoi yn y blwch a fydd ar gael yn y lleoliadau. Bydd hyn yn ychwanegol i’r sylwadau a’r awgrymiadau a gyflwynwyd yn ystod y broses ymgynghori ar-lein.

Bydd adborth o’r ymgynghoriad ar-lein yn bwydo i mewn i gam nesaf y gwaith ac yn rhan o benderfyniadau Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch dylunio a gweithredu cynllun posibl i leihau’r perygl o lifogydd.

Keith Henson yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Rydym yn annog trigolion Llandysul, Pont-Tyweli a Llanybydder i ddweud eu dweud yn yr ymgynghoriad hwn, naill ai trwy fynychu’r digwyddiadau wyneb yn wyneb yn y lleoliadau hynny neu trwy’r ddolen ar-lein ar wefan y Cyngor. Bydd ymatebion yr ymgynghoriad yn ein galluogi ni a’n partneriaid i archwilio pa opsiynau sydd gennym i reoli perygl llifogydd yn Nyffryn Teifi.”

Dywedodd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Gwastraff a Gwasanaethau Seilwaith Cyngor Sir Gâr: "Rydym eisiau cymaint o adborth a phosib gan drigolion fel y gallwn, gyda'n gilydd, edrych ymhellach ar yr opsiynau sydd ar gael i ni i reoli perygl llifogydd yn y cymunedau hyn. Bydd y digwyddiadau galw heibio yn gyfle i drigolion siarad â swyddogion am y gwahanol opsiynau sydd ar gael a'r camau nesaf."

Os ydych yn dangos unrhyw arwyddion o symptomau sy’n gysylltiedig â Covid yna byddem yn ddiolchgar pe na baech yn mynychu ac yn gadael unrhyw farn a sylwadau yr hoffech eu rhoi gan ddefnyddio’r ddolen at yr ymgynghoriad ar-lein: http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/dweud-eich-dweud-ynglyn-a-lleihau-llifogydd/

04/08/2022