A ydych chi am fentro popeth?

Yn ddiweddar, nododd Cyngor Sir Ceredigion y gallai mwy na 600 o bobl farw o’r coronafeirws yng Ngheredigion oni fyddai camau gweithredu’n cael eu rhoi ar waith, gan alw ar bobl i aros gartref, peidio â theithio’n ddiangen, a gwneud ymarfer corff yn lleol.

Mae ymdrechion trigolion Ceredigion i aros gartref wedi helpu i sicrhau bod gan Geredigion y lefel isaf o brofion positif o’r feirws yng Nghymru. Mae hyn yn bennaf oherwydd y mesurau a roddwyd ar waith ac ymrwymiad pobl i barhau’n gryf ac aros gartref. Fodd bynnag, nid dyma’r adeg i fod yn hunanfodlon.

Yn y Deyrnas Unedig, mae mwy na 21,000 o bobl wedi marw o’r feirws. Yng Nghymru, mae yna fwy nag 800 o farwolaethau. Mae’n bosibl nad yw penllanw’r coronafeirws wedi cyrraedd Ceredigion eto. Bydd pobl yn parhau i gael eu heintio ac mae nifer y marwolaethau a ragwelir yng Ngheredigion yn parhau’n uchel iawn. Nid yw’r feirws hwn yn gwahaniaethu.

Mae Ceredigion wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer pob digwyddiad posibl yn wyneb y coronafeirws trwy sicrhau bod 151 o welyau ar gael mewn dau ysbyty maes yn Aberystwyth ac Aberteifi (Ysbyty Enfys Aberystwyth ac Ysbyty Enfys Aberteifi), yn ogystal â pharatoi canolfan orffwys dros dro sydd â chapasiti ar gyfer 240 o feirw ychwanegol yn y sir.

Gobeithio na fydd angen defnyddio’r cyfleusterau hyn, a hynny wrth i bobl gael eu hannog i ddal ati a dilyn y canllawiau.

Wrth i amser fynd rhagddo, mae mor bwysig ag erioed i bobl beidio â theithio’n ddiangen na chwrdd â phobl y tu allan i’w cartrefi. Po fwyaf y bydd pobl yn teithio ac yn anufuddhau i’r canllawiau, y mwyaf y bydd y risg iddynt hwy ac i bobl eraill, ac mae’n debygol y bydd y nifer o achosion a marwolaethau yng Ngheredigion yn cynyddu.

Cofiwch na ddylech fynd allan os oes gennych unrhyw symptomau o’r coronafeirws, yn aros am brawf neu ganlyniadau prawf, neu os oes gennych achos wedi’i gadarnhau, a rhaid i chi ddilyn y rheolau o ran hunanynysu.

Bob tro y byddwch yn gadael y tŷ, byddwch yn cynyddu’r siawns o ddal y coronafeirws. A ydych chi am fentro popeth?

Diolch i chi, drigolion Ceredigion, am wneud gwaith gwych, gan aros adref ac achub bywydau.

Cadwch hyd braich i leddfu’r baich.

• Darperir diweddariadau rheolaidd ar y sefyllfa yng Ngheredigion ar wefan y Cyngor
• Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram Cyngor Sir Ceredigion
• Mae’r cyfraddau o ran nifer yr achosion a’r marwolaethau ledled Cymru yn cael eu diweddaru’n ddyddiol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

29/04/2020