Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion o COVID-19 yng Ngheredigion yn ddiweddar.

Rhwng 3 a 9 Medi 2021, gwelodd Ceredigion y trydydd cynnydd mwyaf o blith yr holl Awdurdodau yng Nghymru, lle cynyddodd nifer yr achosion i 132.1 achos fesul pob 100,000 o gymharu â’r saith diwrnod blaenorol.

Mae yna wir bryder am nifer yr achosion ymhlith pobl o dan 25 oed, gyda’r grŵp oedran hwn yn parhau i fod â’r nifer uchaf o achosion – yn ystod y saith diwrnod diwethaf, roedd yn cyfrif am 859.8 achos i bob 100,000 yng Ngheredigion.

Rydym hefyd yn gweld cynnydd araf yn nifer yr achosion ymhlith pobl dros 60 oed.

Mae yna hefyd dystiolaeth o drosglwyddo yn y cartref, felly os oes rhywun yn eich cartref yn hunanynysu, sicrhewch eich bod yn cadw cymaint o bellter cymdeithasol â phosib, yn dilyn mesurau hylendid da ac yn sicrhau bod eich cartref wedi’i awyru’n dda.

Mynnwch eich brechlyn

Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu, dyma fydd yn rhoi’r amddiffyniad gorau i chi yn erbyn y feirws wrth i ni wynebu’r gaeaf.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yr wythnos hon, bydd y brechlyn nawr yn cael ei gynnig i bobl ifanc 12-15 oed yng Nghymru. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: brechlynnau ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed. Bydd rhagor o wybodaeth am ddarparu’r brechlyn yng Ngheredigion ar gael yn fuan.

Bydd pigiad atgyfnerthu hefyd yn cael ei gynnig yn yr hydref i rai grwpiau penodol yn ystod yr wythnosau nesaf. Bwriad y pigiad atgyfnerthu yw lleihau achosion o COVID-19 a chryfhau’r amddiffyniad ymhlith y rheiny sydd fwyaf bregus o gael eu heintio’n ddifrifol. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn cael ei gynnig i ddechrau i bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal a staff gofal iechyd a chymdeithasol y rheng-flaen. Bydd y rheiny sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn cael eu gwahodd i fynd i ganolfan frechu cyn hir. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma: pigiadau atgyfnerthu.

Symptomau

Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau, rhaid i chi hunanynysu yn syth a threfnu prawf ar wefan y Llywodraeth neu drwy ffonio 119.

Mae’r prif symptomau yn cynnwys tymheredd uchel, peswch newydd parhaus a cholled neu newid i flas neu arogl. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o symptomau tebyg i ddolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen, blinder, diffyg anadl, chwydu, dolur rhydd a theimlo’n anhwylus yn gyffredinol.

Mae’r brechlyn COVID-19 yn eich amddiffyn chi ond mae hefyd yn rhoi gwell amddiffyniad i’ch anwyliaid a’n cymunedau. Mae cael eich brechu yn achub bywydau.

Hyd yn oed os ydych wedi cael dau ddôs o’r brechlyn, parchwch eraill trwy olchi eich dwylo yn rheolaidd, gwisgo masg lle bo angen a chadw pellter cymdeithasol oddi wrth eraill.

Trwy ddilyn yr arferion da hyn gallwn wneud ein rhan i gadw Ceredigion yn ddiogel.

15/09/2021