Ar 11 Mai 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod mynediad at becynnau hunan-brawf COVID cyflym (profion llif unffrodd) bellach ar gael i Ofalwyr Di-dâl.
Gall pobl archebu prawf ar-lein neu gellir eu casglu o safleoedd prawf penodol ledled Cymru, heb fod angen apwyntiad. Fwy o wybodaeth ar gael yma: https://llyw.cymru/profi-olrhain-diogelu-coronafeirws. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion y safleoedd casglu yma: https://maps.test-and-trace.nhs.uk/
Mae profion llif unffordd yn ei gwneud yn bosibl cynnal profion am y coronafeirws ar bobl heb symptomau yn rheolaidd. Maen nhw hefyd yn gwneud y broses o gael prawf yn gyfleus ac yn hawdd i bobl nad ydynt wedi'u cynnwys mewn cynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Nid oes symptomau gan tua 1 o bob 3 o bobl sy'n profi'n bositif am y coronafeirws ond maen nhw’n dal yn gallu heintio pobl eraill, sy'n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o gadw pobl yn ddiogel wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Dylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws hunanynysu a chael prawf drwy ffonio 119, ei archebu ar-lein neu drwy ddefnyddio ap COVID-19 y GIG.
Bydd pob unigolyn yn cael casglu neu archebu 2 becyn o 7 hunan-brawf COVID cyflym i'w defnyddio gartref fel mater o drefn. Argymhellir fod profion yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos (3 neu 4 diwrnod ar wahân), gan gofnodi pob canlyniad ar borth llywodraeth y DU.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://llyw.cymru/coronafeirws
13/05/2021