Mae cwmnïau cychod lleol yn cael eu hannog i redeg tripiau dydd a nos o'r lanfa yn Aberystwyth. Bydd adnewyddu'r lanfa bren ar bromenâd Aberystwyth yn ei wneud yn ddiogel i'w ddefnyddio gan gwmnïau cychod dŵr bas masnachol.

Gallai cwmnïau cychod elwa o’r miloedd o bobl sy'n ymweld â'r promenâd bob dydd yn ystod tywydd braf. Gallai'r adnewyddu cynnig atyniad arall i drigolion ac ymwelwyr ar hyd y promenâd poblogaidd.

Bydd y lanfa yn cael ei hadnewyddu gan Gyngor Sir Ceredigion ar ôl llwyddo i sicrhau arian o'r Gronfa Cymunedau Arfordirol i ailadeiladu'r lanfa ar ôl iddi gael ei difrodi'n ddifrifol gan fwydod y môr.

Dywedodd yr aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans, “Rydym yn gobeithio y bydd y lanfa'n barod i'w ddefnyddio o Fehefin 2019. Mae'n cynnig cyfle gwych nid yn unig i gwmnïau cychod, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i drigolion ac ymwelwyr weld yr arfordir prydferth ardal Aberystwyth o bersbectif arall.”

“Does dim rheswm pam na all tripiau cychod redeg tu hwnt i oriau golau dydd. Gall y machlud haul eithriadol a’r promenâd sydd wedi ei oleuo cynnig golygfa unigryw i deithwyr o Aberystwyth a Bae Ceredigion.”

Gall unrhyw gwmni cychod masnachol sydd â diddordeb mewn rhedeg tripiau cychod o'r lanfa yn Aberystwyth gysylltu â Gareth Rowlands trwy gareth.rowlands@ceredigion.gov.uk am ragor o fanylion.

11/02/2019