Wrth i’r Nadolig agosáu, daeth cyfyngiadau newydd i rym ar gyfer busnesau lletygarwch o 6pm ddydd Gwener 04 Rhagfyr 2020 ymlaen.

Rydym yn ddiolchgar i’r mwyafrif helaeth o fusnesau’r sir sy’n ymdrechu i wneud eu rhan a chadw at y canllawiau cenedlaethol ac a fydd yn parhau i wneud eu gorau glas i helpu i ddiogelu’r cyhoedd yn ystod y sefyllfa ddigynsail hon yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Dyma’r newidiadau allweddol:

  •   Bydd pob lleoliad lletygarwch, gan gynnwys tai bwyta, caffis, tafarnau a bariau yn gallu agor y tu mewn a’r tu allan ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diodydd dialcohol a rhaid iddynt gau erbyn 6.00pm. Nid oes hawl yfed diodydd alcoholig yn y mangreoedd hyn ar unrhyw adeg.
  •  Gall gwestai a darparwyr llety eraill weini bwyd a diodydd dialcohol i’w preswylwyr ym mariau/yn nhai bwyta eu mangreoedd hyd at 10pm ar gyfer eu preswylwyr, ond rhaid iddynt gau erbyn 6.00pm i’r sawl nad ydynt yn breswylwyr. Ar gyfer gwasanaeth ystafell, gall preswylwyr archebu bwyd a diod i’w bwyta a’u hyfed yn eu hystafelloedd eu hunain ar unrhyw adeg, ond ni ddylai hyn gynnwys alcohol ar ôl 10.00pm. Ni ellir gweini alcohol i westeion yn eu hystafelloedd gwely rhwng 10.00pm a 6.00am y bore canlynol.
  •  Gall gwasanaethau cludfwyd barhau i weithredu fel arfer ar yr amod bod bwyd a diod yn cael eu gwerthu i’w bwyta a’u hyfed oddi ar y safle ac nad yw’n cynnwys alcohol ar ôl 10.00 pm.
  •  Gall mangreoedd a chanddynt drwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar y safle barhau i werthu alcohol tan 10.00pm yn rhan o’r cynnig cludfwyd. Rhaid dilyn rheolau o ran gorchuddion wyneb a chynnal pellter corfforol.
  •  O safbwynt archebion a wnaed cyn 30 Tachwedd ar gyfer derbyniadau priodas a phartneriaeth sifil a gwylnosau ar ôl angladd mewn gwestai a llety (ar gyfer yr uchafswm o 15 o bobl a ganiateir y tu mewn a 30 o bobl y tu allan), gall preswylwyr y llety a’r rhai nad ydynt yn breswylwyr aros tan 10.00pm ar gyfer bwyd a diodydd dialcohol. Ar gyfer archebion a wnaed ar ôl 30 Tachwedd, rhaid i’r lleoliad gau erbyn 6.00pm i’r sawl nad ydynt yn breswylwyr.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae arolygiadau a gynhaliwyd gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd y Cyngor yn Aberteifi ac ardaloedd eraill o'r sir wedi dangos bod y rhan fwyaf o fusnesau a thrigolion yn gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws. Wrth i nifer yr achosion a gofnodir yn y sir gynyddu, bu cynnydd hefyd ym mharodrwydd busnesau i ofyn i’w hunain pa fesurau y gellir eu cymryd er mwyn atal y feirws rhag trosglwyddo ac yna cymryd y camau hynny.

Gwyddom fod y gofynion hyn yn cyflwyno rhwystrau ac yn gosod beichiau rhyfeddol ar fusnesau. Rhaid canmol yr ymdrechion a wneir gan fusnesau i barhau i gefnogi eu cymunedau lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Fodd bynnag, pan ganfyddir bod busnesau yn methu â chyflawni eu dyletswydd i gydymffurfio â'r gofynion a osodir arnynt, bydd ein swyddogion yn defnyddio eu pwerau gorfodi pryd bynnag y bo angen gwneud hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio unwaith eto. Rydym yn cydweithio'n agos gyda chydweithwyr o Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau partner eraill i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn.

Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn dilyn y cyfarwyddiadau newydd er mwyn sicrhau bod ein Gwasanaethau Iechyd a Gofal yn gallu ymdopi â’r effaith sylweddol y bydd y feirws yn ei chael ar drigolion.

Mae hyn yn unol â Strategaeth y Gaeaf y Cyngor er mwyn diogelu iechyd a lles ein trigolion mwyaf bregus, gan hefyd alluogi’r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

Os ydych yn ymwybodol bod busnes yn methu â dilyn y rheoliadau diweddaraf mewn perthynas â Covid-19, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at PublicProtection@ceredigion.gov.uk. Peidiwch â gadael i’r lleiafrif ddifetha pethau ar gyfer y mwyafrif - mae ein hiechyd a’n bywoliaeth yn dibynnu arno.

Mae gwybodaeth a chyngor i fusnesau Ceredigion ar gael ar http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/.

07/12/2020