Mae llawer o reolau COVID-19 Cymru bellach wedi llacio. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar waith o hyd ar Lefel Rhybudd 0.

Mae'n ofynnol i bob busnes gynnal ei asesiadau risg ei hun a chymryd camau rhesymol i sicrhau diogelwch ei staff a'i gwsmeriaid.

Mae gwisgo masgiau wyneb yn dal i fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith mewn llawer o fannau cyhoeddus dan do, megis mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Er gwaethaf y ffaith bod y rheolau o ran cadw pellter cymdeithasol dan do wedi llacio, rhaid i fusnesau roi eu mesurau eu hunain ar waith i gadw staff a chwsmeriaid yn ddiogel, a all gynnwys elfennau o gadw pellter cymdeithasol.

Cardiau Gweithredu

Mae cardiau gweithredu ar gael gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws: Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws

Pan fo safleoedd yn gysylltiedig â nifer o achosion, neu phan fo diffyg mesurau rheoli, rhoddir cyngor fel arfer cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi. Fodd bynnag, os yw safle'n peri risg ddifrifol neu uniongyrchol, gellir cymryd camau gorfodi heb roi cyngor yn gyntaf.

Mae angen i ni barhau i helpu i Ddiogelu Ceredigion a rheoli lledaeniad COVID-19 yn ein cymunedau.

18/08/2021