Rhybuddiwyd perchnogion pum siop cludfwyd yng Ngheredigion y gallai eu busnesau wynebu gorfod cau os byddant yn methu â chymryd camau rhesymol i ddarparu cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb neu sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n gweithio yn eu mangreoedd.

Mae Hysbysiadau Gwella Mangre wedi cael eu cyflwyno i’r sawl sy’n gyfrifol am y siopau cludfwyd canlynol yng Ngheredigion:

  • Siop Pysgod a Sglodion Cardigan Arms, Aberteifi
  • Express Café, Aberystwyth
  • Domino’s, Aberystwyth
  • Hot Dumplings, Aberystwyth
  • Star Fried Chicken and Pizza, Aberystwyth.  

Mae’r hysbysiadau gwella yn ei gwneud yn ofynnol i'r busnesau ‘ddarparu neu sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bob un sy’n gweithio yn y mangreoedd’ ac yn rhybuddio y gallai peidio â chydymffurfio â’r hysbysiadau arwain at gyflwyno hysbysiad cau mangre. Cyflwynwyd yr hysbysiadau i'r busnesau yn dilyn arolygiadau wedi’u cydlynu dros y penwythnos gan Heddlu Dyfed Powys a Thîm Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Ceredigion.

Dylai busnesau sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r gofynion sy’n rhan o’r Rheoliadau i sicrhau bod unigolion yn gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, yn ogystal â’r gofyniad i fangreoedd a reoleiddir gymryd pob cam rhesymol i atal y coronafeirws rhag lledaenu, megis darparu gorchuddion wyneb a’i gwneud yn ofynnol i’w defnyddio. Er bod amddiffynwyr wyneb yn diogelu defnyddwyr rywfaint rhag trosglwyddiad y coronafeirws, nid ydynt yn cael eu hystyried yn ‘orchuddion wyneb’ gan nad ydynt yn gorchuddio’r geg a’r trwyn.

Bydd Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn parhau i arolygu mangreoedd yn ddirybudd, a gellir cyflwyno hysbysiadau gwella neu hysbysiadau cau mangre i'r busnesau nad ydynt yn cydymffurfio.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor: Cefnogi Economi Ceredigion

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o’i gyfrifoldebau mewn perthynas â gorchuddion wyneb i wirio gwefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

07/12/2020