Mae ‘Defaid’, arddangosfa arloesol Amgueddfa Ceredigion, wedi cyrraedd rhestr fer y categori ‘arddangosfa dros dro neu deithiol’ yng Ngwobrau Amgueddfeydd a Threftadaeth 2020.

Amgueddfa Ceredigion yw’r unig amgueddfa ar y rhestr fer sydd wedi’i lleoli y tu allan i Lundain. Bydd yr Amgueddfa yn wynebu cystadleuaeth frwd, gan gynnwys arddangosfa ‘Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau’ gan Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol, ac arddangosfa ‘Steve McQueen Year 3’ gan Tate. Cyhoeddir yr enillydd mewn seremoni rithiol ar 22 Medi.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â Chyfrifoldeb am Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Rwyf wrth fy modd bod Amgueddfa Ceredigion wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, ac yn erbyn amgueddfeydd gwych eraill yn Llundain. Dylai holl staff Amgueddfa Ceredigion fod yn hynod o falch o'u gwaith caled. Mae hyn yn gamp aruthrol!”

Carrie Canham yw Curadur Amgueddfa Ceredigion. Dywedodd: “Rydym ar ben ein digon ac yn falch dros ben o’r llwyddiant hwn, ac rwy'n arbennig o falch dros fy nghydweithiwr, Alice Briggs, y Curadur Cynorthwyol, a guradodd yr arddangosfa. Ond ni fyddai hi wedi gallu gwneud hyn heb gymorth y tîm cyfan o staff, gwirfoddolwyr, partneriaid a chyllidwyr prosiect, felly mae’n bluen yn ein capiau i gyd.”

Roedd yr arddangosfa, a gynhaliwyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2019, yn archwilio hanes, treftadaeth a diwylliant cymunedau sy’n ffermio defaid a’u perthynas ehangach â thir a thirwedd Cymru. Roedd yr arddangosfa yn gam mawr i’r Amgueddfa gan mai dyma’r un gyntaf i gynnwys gweithiau uchel eu gwerth ar fenthyg gan sefydliad cenedlaethol, diolch i arian grant a ddefnyddiwyd i uwchraddio’r system ddiogelwch. Roedd yn cynnwys tri llun gan Henry Moore a gweithiau celf eraill o oriel Tate, a oedd yn cynnig cyfle cyffrous i weld artistiaid o Gymru yn arddangos eu gwaith wrth ochr gwaith celf o bwys rhyngwladol ynghyd â chasgliad o waith celf o Geredigion. Roedd yr artistiaid Cymraeg a gyfrannodd yn cynnwys Ffion Jones, Miranda Whall, Christine Mills, Morag Colqhuon, Carwyn Evans, Marian Delyth a Short and Forward.

Roedd symposiwm 'tirweddau'r dyfodol' yn cyd-fynd â’r arddangosfa, a ddaeth ag artistiaid, curaduron, academyddion, ffermwyr, amgylcheddwyr ac eraill at ei gilydd i drafod y materion yn ymwneud â threftadaeth a dyfodol ucheldiroedd Ceredigion. Mae gwaddol y digwyddiad arloesol hwn yn parhau; Mae'r Amgueddfa'n cynnal cyfarfodydd 'ymarfer y bobl' bob mis, yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo, i gadw'r drafodaeth i fynd.

Cefnogwyd yr arddangosfa gan Raglen Fenthyca Weston ar y cyd ag Art Fund. Crëwyd Rhaglen Fenthyca Weston gan Sefydliad Garfield Weston ac ‘Art Fund’ a hi yw’r cynllun cyllido cyntaf ledled y DU i alluogi orielau llai ac amgueddfeydd awdurdodau lleol i fenthyg gwaith celf ac arteffactau oddi wrth gasgliadau cenedlaethol. Rhoddwyd rhagor o gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a ‘The Ferryman Project: Sharing Works of Art’ a gefnogir gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad John Ellerman ac ‘Art Fund’.

 

 

17/07/2020