Ym mis Ebrill eleni, derbyniodd Cyngor Sir Ceredigion gais am Drwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus gan Mr a Mrs Tweedy, perchnogion busnes newydd o’r enw’r ‘Animalarium’ yn Y Borth.

Roedd cwmni blaenorol Mr a Mrs Tweedy, sef Borth Wild Animal Kingdom Ltd, wedi cael ei ddirwyn i ben gan y Llysoedd yn gynharach eleni, ac o ganlyniad nid oes ganddynt drwydded sw nac unrhyw drwydded debyg arall mwyach. 

Trefnodd y Cyngor arolygiad ar 12 Mai 2021 yn rhan o'u cais am Drwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus. Yn dilyn yr arolygiad, penderfynodd yr Awdurdod Lleol beidio â rhoi Trwydded Anifeiliaid Gwyllt Peryglus. Yna, dywedwyd wrth Mr a Mrs Tweedy na allent gadw unrhyw anifeiliaid gwyllt peryglus mwyach ac y byddai'n rhaid iddynt symud eu primatiaid a’u hantelopiaid y gors (antelopiaid â chyrn) o'r safle yn yr Animalarium.

Ers y penderfyniad hwnnw, mae'r perchnogion a'r Cyngor Sir wedi gweithio gyda'i gilydd i ddatrys y sefyllfa. Ar 15 Mehefin 2021, hysbyswyd y Cyngor bod eu primatiaid i gyd wedi cael eu symud i Monkey World yn Dorset heb unrhyw broblemau. Mae'r perchnogion hefyd wrthi’n cwblhau trefniadau i symud yr antelopiaid.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, Aelod Cabinet Cyllid a Chaffael a Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r Cyngor Sir yn hynod ddiolchgar am gymorth a phroffesiynoldeb Monkey World wrth ailgartrefu’r epaod a hefyd The Aspinall Foundation a ailgartrefodd ddau lew yn gynharach eleni.”

Mae swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn monitro'r sefyllfa'n ofalus, ac mae Mr a Mrs Tweedy yn cydweithredu â'r Cyngor ac yn cymryd camau i wneud gwelliannau i sicrhau bod materion lles anifeiliaid yn cael eu rheoli a'u trin yn briodol.

01/07/2021