Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn dychwelyd mewn safle newydd.

Bydd y Farchnad boblogaidd yn cael ei chynnal ar Sadwrn 1af a 3ydd bob mis i ddechrau am 10yb, yn Yr Hen Depo bysiau Arriva ar Goedlan y Parc, Aberystwyth. Mae’r newid lleoliad dros dro yma oherwydd bod y parthau diogel ar waith yng nghanol y dref, lle mae’r farchnad fel arfer yn cael ei chynnal.

Bydd y Farchnad gyntaf yn cael ei gynnal ar 07 Awst, yn dilyn saib ers mis Mawrth 2020 oherwydd pandemig y Coronafeirws.

Bydd modd gweld nifer o’r stondinwyr rheolaidd yn ogystal â nifer o rai newydd. Maent yn awchu i ddod yn ôl i Aberystwyth ar ôl cyfnod anodd. Bydd y siopwyr hefyd yn falch o weld y Farchnad yn ôl. Estynnir diolch i’r siopwyr am barhau i barchu pellhau cymdeithasol a hefyd gwisgo masg wyneb wrth siopa i gadw pawb yn ddiogel.

Mae Gwasanaeth Clicio a Chasglu ‘Aber Food Hub’ yn parhau o safle’r Hen Depo. Ceir mwy o wybodaeth a chanllawiau ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar wefan Open Food Network.

Am wybodaeth am y Farchnad, cadwch lygad ar wefan newydd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth / Aberystwyth Farmers Market ac ar dudalen Facebook Aber Farmers’ Market.

03/08/2021