Bydd holl gyfleusterau hamdden y cyngor, sef Canolfan Hamdden Aberaeron, Canolfan Hamdden Aberteifi, Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan, Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan, Neuadd Chwaraeon Penglais a Chanolfan Hamdden Plascrug, yn ailagor ddydd Llun 31 Ionawr 2022.

Mae’r gwaith adfer a chynnal a chadw yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi, Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan a Chanolfan Hamdden Plascrug bellach wedi’i gwblhau, ac mae'r holl gyfleusterau yn barod i groesawu eu defnyddwyr yn ôl.

Ar ôl eu defnyddio fel Ysbytai Maes a chanolfannau brechu, mae gwelliannau wedi’u gwneud ym Mhlascrug, sy'n cynnwys llawr newydd yn y neuadd chwaraeon; mae’r goleuadau ar y cyrtiau sboncen wedi'u huwchraddio ac mae Uned Trin Aer newydd wedi'i gosod. Yn Aberteifi, mae goleuadau a lloriau newydd ac mae offer ychwanegol wedi'i osod yn yr ystafell ffitrwydd.

Bydd natur gyswllt rhai o'r gweithgareddau chwaraeon yn cael eu cyfyngu i'r awyr agored am y tro er mwyn lleihau'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws. Cysylltir â chlybiau a grwpiau unigol yn uniongyrchol.

Gan fod y coronafeirws yn parhau i beri risg, bydd y gweithdrefnau canlynol yn cael eu rhoi ar waith ym mhob cyfleuster i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws ac er mwyn amddiffyn preswylwyr a staff:

  • bydd angen archebu pob gweithgaredd ymlaen llaw
  • llai o gapasiti
  • cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol
  • defnyddio hylif diheintio dwylo
  • rhaid gwisgo masg wyneb y tu mewn i’r cyfleusterau (ac eithrio wrth wneud ymarfer corff)
  • ffefrir taliadau â cherdyn
  • rhaid darparu Asesiad Risg Covid / Cynllun Dychwelyd i Chwarae at Ddefnydd Cymunedol

Gellir archebu o ddydd Iau 27 Ionawr 2022 ymlaen drwy ffonio'r cyfleusterau yn ystod eu horiau agor neu drwy anfon e-bost at leisurebookings@ceredigion.gov.uk.

Mae'r Cyngor yn cydnabod ei bod wedi bod yn gyfnod heriol i bawb, ac edrychwn ymlaen at groesawu trigolion Ceredigion yn ôl i'n cyfleusterau a rhoi cyfle iddynt fod yn gorfforol egnïol unwaith eto.

Rhaid i ni i gyd barhau i fod yn wyliadwrus gan nad yw'r coronafeirws wedi diflannu. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, hunanynyswch a threfnwch brawf PCR ar unwaith. Os byddwch yn profi'n bositif ar brawf llif unffordd (LFT), cofnodwch y canlyniad ar wefan Llywodraeth Cymru a dilynwch y rheolau hunanynysu.

Bydd gwybodaeth a diweddariadau yn cael eu rhannu ar wefan Ceredigion Actif: www.ceredigionactif.org.uk ac ar ein ffrydiau amrywiol ar y cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter ac Instagram.

26/01/2022