Mae paratoadau bellach yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau’r safonau uchaf o ran diogelwch y cyhoedd pan fydd Canolfannau Hamdden a Phyllau Nofio’r Awdurdod Lleol yn ailagor yn rhannol yng Ngheredigion.

  • Bydd Canolfan Hamdden Aberaeron a Chanolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan yn ailagor ar 3 Medi, gan gynnig darpariaeth ar raddfa lai i ddechrau.
  • Bydd y pwll nofio yn Llanbedr Pont Steffan yn ailagor ar 7 Medi.
  • Bydd gwasanaethau hamdden hefyd yn cael eu cynnig yn Neuadd Chwaraeon Penglais o 7 Medi ymlaen ac ym Mhwll Nofio Aberteifi o 14 Medi ymlaen (yn amodol ar gadarnhad), gan y bydd Canolfan Hamdden Plascrug a Chanolfan Hamdden Aberteifi yn parhau i gael eu defnyddio fel ysbytai maes am y tro.

Bydd disgwyl i ddefnyddwyr y gwasanaeth archebu ymlaen llaw drwy e-bostio leisurebookings@ceredigion.gov.uk a bydd modd archebu dros y ffôn o 4pm ymlaen ac ar benwythnosau. Dim ond taliadau heb arian fydd yr holl ganolfannau yn eu derbyn.

Gellir cymryd galwadau o 4pm o bob un o'r lleoliadau hyn:

  • Canolfan Hamdden Aberaeron - 01545 571738
  • Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan - 01570 422552
  • Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan - 01570 422959
  • Neuadd Chwaraeon Penglais - 01970 615303
  • Pwll Nofio Aberteifi - 01239 613632

Bydd disgwyl i holl ddefnyddwyr yr ystafelloedd ffitrwydd a defnyddwyr clybiau i gyrraedd yn barod i ymarfer/hyfforddi, ni fydd cyfleusterau newid ar gael. Yn ogystal, ni fydd unrhyw ffynhonnau dŵr felly hoffem i’r holl gwsmeriaid ddod â’u poteli dŵr eu hunain.

Hoffem ddiolch i bawb am y gefnogaeth barhaus ac am weithio gyda ni i sicrhau bod popeth yn ei le cyn ailagor, gan fod diogelwch y staff, y cwsmeriaid a thrigolion Ceredigion yn hollbwysig i ni.

Bydd gwybodaeth bellach, gan gynnwys oriau agor a chanllawiau ar gyfer aelodau Ceredigion Actif, yn cael ei rhyddhau maes o law ar y wefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer pob safle. Cadwch lygad am y wybodaeth ddiweddaraf.

27/08/2020