Bydd Amgueddfa Ceredigion yn ailagor ei drysau i’r cyhoedd ar 12 Awst 2021 ar ôl bod ar gau oherwydd y pandemig.

Fel rhan o’r datblygiad cyffrous hwn, bydd yr amgueddfa yn agor arddangosfa newydd o’r enw Edau Bywyd, sef arddangosfa drawiadol o gwiltiau hanesyddol sy’n cynnwys dau gwilt newydd (un cwilt digidol ac un cwilt defnydd) a wnaed gan drigolion Ceredigion i gofnodi eu profiadau o’r pandemig. 

Dywed staff yr amgueddfa eu bod wedi cyffroi’n lân o gael ailagor yr amgueddfa a’u bod yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl.

Dengys gwaith ymchwil gan Gymdeithas y Prif Atyniadau i Ymwelwyr fod 75% o’r bobl a ymatebodd i arolwg yn ddiweddar yn dymuno gweld atyniadau yn cadw’r mesurau sydd mewn grym i’w diogelu rhag Covid-19.

O ystyried hyn, mae’r amgueddfa wedi rhoi system archebu ar waith i gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr sy’n medru dod i’r adeilad ar un adeg. Hefyd, bydd digon o gyfleoedd i bobl ddiheintio eu dwylo a bydd gofyn i bobl gadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau.

Dim ond i’r siop a llawr cyntaf yr amgueddfa y bydd pobl yn medru mynd iddynt am y tro. Hefyd, cafodd rhai o staff allweddol y caffi eu symud i swyddi newydd i gefnogi’r ysgolion a’r cartrefi gofal. Mae dal angen iddynt gyflawni’r rolau hanfodol hyn felly ni fydd y caffi yn ailagor am y tro. Serch hynny, bydd siop yr amgueddfa yn llawn nwyddau newydd a hyfryd gan gynnwys llawer o bethau sydd wedi’u cynllunio’n arbennig i gyd-fynd â’r arddangosfa gwiltiau.

Yn y lle cyntaf, bydd yr amgueddfa ar agor bob dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 11am a 4pm.

Mae manylion llawn yr arddangosfa ar gael ar y wefan. O 5 Awst 2021 ymlaen, gall pobl wneud trefniadau i ymweld â’r amgueddfa drwy fynd i wefan Amgueddfa Ceredigion

04/08/2021