Am y tro cyntaf eleni cafodd disgyblion rhai o ysgolion Sir Ceredigion gyfle i gystadlu yn Cwis Dim Clem sef cwis wedi ei drefnu gan Fentrau Iaith De Orllewin Cymru, lle trefnwyd Cered: Menter Iaith Ceredigion y rowndiau rhanbarthol.

Bu disgyblion ysgolion canol y sir yn cystadlu’n frwd er mwyn mynd ymlaen i’r rownd derfynol lle llwyddodd Ysgol Talgarreg i gipio’r ail wobr yn erbyn ysgolion o siroedd Castell Nedd - Port Talbot, Brycheiniog, Caerfyrddin a Phenfro.

Cwis ar gyfer plant blwyddyn 6 yw Cwis Dim Clem a’r nod yw datblygu cyfleoedd cyfrwng Cymraeg newydd i blant ysgol ac i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion a’r Mentrau Iaith.

Roedd y timoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar bob math o pynciau o ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth, mathemateg i chwaraeon, cerddoriaeth a bwyd. Y nod yw i sgorio’r cyfanswm uchaf o bwyntiau ymhob rownd, ac yna bydd yr ysgol sydd yn sgorio fwyaf yn cynrychioli’r sir mewn rownd derfynol yn erbyn pencampwyr siroedd eraill y De Orllewin.

Mae’r cwis wedi ei gynnal ers sawl blwyddyn bellach ac yn 2019 fe ehangodd y cynllun i gynnwys siroedd newydd gan gynnwys Ceredigion. Yn y flwyddyn gyntaf hon fe wnaeth Cered: Menter Iaith Ceredigion beilota Cwis Dim Clem yn ardaloedd Llanbedr Pont Steffan ac Aberaeron gan gynnal rowndiau lleol yn y ddwy ardal ac yna rownd gynderfynol ar gyfer y timoedd gorau.

Bu saith ysgol yn cystadlu yn y rowndiau yma ond yn y pendraw Ysgol Talgarreg aeth a hi gan gyrraedd y rownd derfynol yn Yr Atom yng Nghaerfyrddin ar ddydd Mercher 27 Mawrth. Ysgol Cilgerran o Sir Benfro gipiodd y wobr gyntaf gydag Ysgol Talgarreg yn ail ac Ysgol Gymraeg Rhydaman o Sir Gâr yn drydydd.

Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, “Yn ein blwyddyn gyntaf o fod yn rhan o Gwis Dim Clem doedden ni ddim yn rhy siŵr beth i ddisgwyl ond roedd e’n hyfryd gweld y plant yn cael cymaint o fwynhad a gweld un o’n ysgolion yn gwneud mor dda yn y rownd derfynol.”

Am wybodaeth pellach cysylltwch â Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol gyda Cered ar 01545 572 350 neu drwy e-bost ar: steffan.rees@ceredigion.gov.uk

12/04/2019