Yn ddiweddar, cyfarfu Cadeirydd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) a Rheoleiddiwr Systemau Talu, Charles Randell CBE ag aelodau o'r gymuned a sefydliadau allweddol i drafod mynediad at arian parod, cau canghennau banciau a'r effeithiau ar allu pobl i gynilo a chael credyd.

Cyfarfu ag aelodau allweddol o'r gymuned ffermio gan gynnwys NFU Cymru. Mewn cyfarfod arall cyfarfu â chynrychiolwyr aelodau o'r gymuned sy'n agored i niwed, gan gynnwys Gofalwyr, pobl sydd ag anableddau dysgu a phobl sy'n anabl. Gorffennodd ei ddiwrnod gyda thrafodaeth bord gron dan gadeiryddiaeth Ben Lake AS, gan gwrdd â busnesau bach a chanolig, gan gynnwys manwerthwyr lleol, a chynrychiolwyr o Swyddfa'r post a Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw Eiriolwr Trechu Tlodi Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Dw i wrth fy modd bod Mr Randell wedi ymweld â Cheredigion. Roedd yn hanfodol bwysig iddo ddysgu'n uniongyrchol am yr heriau sy'n wynebu llawer o breswylwyr wrth geisio cael gafael ar arian parod a cheisio defnyddio banciau pan fyddant yn cau ar draws y sir.”

Dywedodd Mr Randell, “Roedd ymweld â Cheredigion yn agoriad llygaid. Roedd yn dda siarad ag aelodau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ynghylch eu profiadau o gyrchu ac adneuo arian, tra bod y ford gron defnyddwyr yn amlygu'r effaith o gau canghennau banc ar ddefnyddwyr bregus. Mae'n bwnc pwysig inni a dyna pam yr ydym yn awyddus i barhau i gwrdd â phobl ledled y wlad i glywed eu profiadau drostynt eu hunain. Ers I ni gyfarfod, rwy'n falch bod cyllid a UK Finance a LINK wedi cyhoeddi mesurau pellach i helpu cymunedau i gadw neu adfer mynediad at arian parod.”

Roedd Mr Randell yn ymweld â Chymru fel rhan o raglen Ymgysylltu Genedlaethol a Rhanbarthol yr AYA ar gyfer ei Dîm Cadeirydd a Gweithredol. Mae'r ymweliadau hyn yn cefnogi ymgysylltiad ehangach AYA â sefydliadau allweddol ar lefel ranbarthol, er mwyn deall materion lleol yn well ar gyfer defnyddwyr a chwmnïau.

29/10/2019