Dylai trigolion Ceredigion ddisgwyl gweld Llythyr Hysbysu Aelwydydd yn cyrraedd eu cyfeiriad cofrestredig o fewn y dyddiau nesaf.

Gofynnir i aelodau’r cartref wirio a yw’r bobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad ar hyn o bryd yn gywir ac a oes unrhyw newidiadau yn yr aelwyd. Os yw’r wybodaeth yn gywir, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. 

Os oes unrhyw wybodaeth yn anghywir, rhowch wybod i ni. Os nad yw rhai neu bob un o'r bobl a restrir yn y llythyr yn byw yn y cyfeiriad hwn mwyach, cysylltwch â ni er mwyn i ni ddiweddaru’r gofrestr etholiadol.

Os nad yw rhywun wedi’i gynnwys yn y llythyr ac yn gymwys i bleidleisio, dyma eu cyfle i gofrestru i bleidleisio. Cofiwch, dyma'r tro cyntaf y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor bleidleisio yn yr etholiadau Lleol ddydd Iau, 5 Mai 2022.

Gall preswylwyr gofrestru i bleidleisio drwy fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu drwy ffonio Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion. Mae cofrestru i bleidleisio yn rhoi’r hawl i chi gymryd rhan mewn etholiadau, a gallai wella eich statws credyd.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd: “Wrth baratoi ar gyfer Etholiadau’r Cyngor Sir a Chynghorau Tref a Chymuned ar 5 Mai eleni, rydym yn gofyn i drigolion Ceredigion wirio’r llythyr er mwyn sicrhau bod gan y Gwasanaeth Etholiadol y wybodaeth ddiweddaraf ar y gofrestr etholiadol. Bydd cymryd ychydig funudau i sicrhau bod y wybodaeth yn gywir yn sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ar 5 Mai.”

Gall preswylwyr sydd ag unrhyw gwestiynau gysylltu â Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion ar 01545 572032 neu electoralservices@ceredigion.gov.uk

10/02/2022