Ar 28 Mehefin 2022, teithiodd Poppy Evans (Ysgol Gyfun Aberaeron) a Lloyd Warburton (Ysgol Penglais) i Lundain i gwrdd ag AS Ceredigion, Ben Lake.

Mae Poppy yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid Prydain a Lloyd yw Aelod Senedd Ieuenctid Ceredigion ar gyfer Senedd Cymru. Mae'r ddau Aelod Seneddol Ifanc yn rhan o Gyngor Ieuenctid Ceredigion.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith o amgylch San Steffan gan AS Ben Lake, sesiwn holi ac ateb, cyfarfod staff ac aelodau seneddol eraill, a chyfle i eistedd yn yr oriel wylio a gwrando ar ddadleuon sy’n cael eu cynnal yn y siambr. Roedd y daith yn gyfle i bobl ifanc ddysgu am hanes Palas San Steffan, gwaith Senedd y DU, sut y defnyddir y mannau gweithio amrywiol yr ymwelwyd â hwy a ffyrdd y gall pobl ifanc gymryd rhan ac ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.

Dywedodd Poppy Evans, ASI Prydain dros Geredigion: “Rwy’n ddiolchgar am gyfle mor anhygoel ac ysbrydoledig i gael cipolwg ar fywyd gwaith Aelodau Seneddol yn ogystal â dysgu am hanes San Steffan a gweld dadl fy hun.”

Dywedodd Lloyd Warburton, ASI Senedd Cymru dros Geredigion: “Roedd yn bleser cyfarfod â Ben Lake yn y Senedd yn ystod y sesiwn. Rhoddodd fewnwelediad gwych i sut mae busnes seneddol yn gweithio y tu ôl i’r llenni a beth mae Aelodau Seneddol yn ei wneud gyda’u hamser pan fyddant y tu allan i’r siambr.”

Ychwanegodd Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Ben Lake a’i swyddfa am roi cyfle mor wych i ni. Fe wnaethon ni fwynhau teithio i Lundain a threulio’r prynhawn gydag ef, yn cael golwg ‘tu ôl i’r llenni’ o ystâd Seneddol San Steffan, a dysgu mwy am rôl Aelodau Seneddol a’u gwaith. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael y cyfle i ymgysylltu a chymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac mae hon yn un o sawl ffordd y gallwn gefnogi’r ymgysylltiad hwnnw, ac rydym yn ddiolchgar i’n AS lleol Ben Lake am alluogi pobl ifanc i gael y cyfleoedd hyn. Cafodd y bobl ifanc eu hysbrydoli gan y cyfle ac fe wnaethon ni fwynhau’r profiad yn fawr.”

 

Dilynwch Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar Facebook, Twitter ac Instagram i ddilyn hynt a helynt pobl ifanc Ceredigion.

14/07/2022