Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo’r datganiad o gyfrifon yn dilyn adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’r adroddiad yn dangos perfformiad cadarnhaol o reolaeth ariannol y cyngor.

Mewn cyfarfod o’r cyngor, roedd Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r cyngor, y Cynghorydd Rowland Rees-Evans yn croesawu adroddiad diamod ac yn cydnabod gwaith pob un o’r staff am sicrhau bod y cyngor wedi gorffen y flwyddyn gyda chyllideb gytbwys.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gyllid. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cymeradwyo cyfrifon sy’n dangos rheolaeth ariannol dda. Mae hyn yn hollbwysig mewn hinsawdd ariannol anodd iawn ar ôl blynyddoedd o doriadau i’n cyllidebau. Byddwn yn parhau i gynllunio ein cyllid yn ofalus i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion Ceredigion yn y dyfodol.”

Adolygir cyfrifon y cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod yn dangos darlun cywir a theg. Maent hefyd yn sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n briodol gyda gofynion deddfwriaethol.

Mae’r datganiad o gyfrifon wedi’i gyhoeddi a gellir ei weld yn swyddfa Canolfan Rheidol yn Aberystwyth neu ar-lein drwy https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/cyllidebau-a-chyllid/datganiad-o-gyfrifon/.

15/10/2019