Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi ei Adroddiad Monitro Safonau’r Gymraeg ac mae ar gael i’r cyhoedd ddarllen.

Mewn cyfarfod Cabinet ar 10 Gorffennaf 2018, derbyniodd yr Aelodau Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion (2017-18), sy’n amlinellu cynnydd wrth weithredu Safonau’r Gymraeg.

Mae’r adroddiad ar gael ar http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/strategaethau-cynllunio-a-pholisïau/iaith-gymraeg/adroddiad-cynnydd-blynyddol/.

Mae’n ofynnol ar y Cyngor gyhoeddi adroddiad blynyddol at sylw Comisiynydd y Gymraeg sy’n amlinellu cydymffurfiaeth gyda Safonau’r Gymraeg, ynghyd ag adrodd ar y dangosyddion perfformiad. Dyma’r drydydd adroddiad blynyddol ers cyflwyno Safonau’r Gymraeg, ac mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y cyfnod 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn sefydlu fframwaith cyfreithiol i osod dyletswydd ar Gyngor Sir Ceredigion, ymhlith sefydliadau cyhoeddus eraill, i gydymffurfio ȃ Safonau yn ymwneud ȃ’r Iaith Gymraeg. Pwrpas cyflwyno Safonau’r Gymraeg yw rhoi mwy o hawliau i bobl fedru defnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd o’u bywydau bod dydd, gan gynnwys cael mynediad at wasanaethau cyfrwng Cymraeg, os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Wrth weithredu gofynion Safonau’r Gymraeg mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg, gan sicrhau bod ei wasanaethau a’i weithgareddau yn hwyluso a hybu defnydd o’r iaith Gymraeg. Mae gan bob aelod o’r cyhoedd yng Ngheredigion yr hawl i ddewis ym mha iaith y mae’n dymuno delio â’r Cyngor ac mae’n ofynnol i staff y Cyngor ymateb yn gadarnhaol i’r dewis hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’r adroddiad yma yn dangos ble mae gan y Cyngor lle i wella ond mae hefyd yn adrodd ar newyddion calonogol megis bod 175 o staff wedi manteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg neu wella eu Cymraeg trwy’r Cyngor yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n hanfodol bod trigolion Ceredigion yn gallu derbyn gwasanaethau’r Cyngor yn y Gymraeg os ydynt yn dymuno hynny, ac fe wnawn ni barhau i gryfhau gallu’r Cyngor i ddarparu hynny hyd yn oed ymhellach.”

Mae’r penderfyniad Cabinet yma yn cefnogi blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o fuddsoddi yn nyfodol y bobl.

25/07/2018