Yn dilyn arolygiad, mae Ysgol Bro Teifi wedi derbyn adroddiad canmoladwy gan Estyn. Roedd adroddiad Estyn wedi arfarnu bod Ysgol Bro Teifi naill ai yn dda neu yn rhagorol ym mhob un o’r meysydd arolygu.

Gareth Evans yw Pennaeth Dros Dro Ysgol Bro Teifi. Dywedodd, “Rydym yn hynod falch gyda chanfyddiadau arolwg diweddar Estyn. Mewn cyfnod cymharol fer, mae’r ysgol wedi datblygu i fod yn gymuned ofalgar a chynhwysol ac mae’r diolch am hynny i lywodraethwyr, staff, y disgyblion a’u rhieni am eu cefnogaeth barhaus.”

“Mae’r barnau a nodwyd gan Estyn yn adlewyrchu’r weledigaeth a osodwyd pan sefydlwyd yr ysgol ac mae’r barnau rhagorol ar gyfer lles disgyblion a’r gofal a ddarperir ar eu cyfer yn destun dathlu. Mae’r ysgol yn cydnabod yr angen i barhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau llwyddiant pellach yr ysgol gydol oed arbennig hon.”

Ysgol ddwyieithog yw Ysgol Bro Teifi ar gyfer plant 3-19 oed. Cafodd yr ysgol ei sefydlu ar ôl cyfuno ysgolion cynradd Llandysul, Coed-y-bryn, Pontsian ac Aberbanc. Mae 918 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd.

Meinir Ebbsworth yw Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion. Dywedodd, “Mae’n hynod o galonogol bod adroddiad cyntaf Ysgol Bro Teifi yn dangos bod safonau da a rhagorol yn cael eu cynnal. Ysgol newydd ydy Bro Teifi ond mae eisoes yn gymuned glos a gofalgar iawn. Mae’r llwyddiant yma yn dangos ôl gwaith caled gan staff, disgyblion, llywodraethwyr yn ogystal â’r fro yn ehangach.”

30/04/2019