Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo’r datganiad o gyfrifon yn dilyn adroddiad gan Archwilio Cymru. Mae’r adroddiad yn dangos perfformiad cadarnhaol o reolaeth ariannol y cyngor.

Mewn cyfarfod o’r cyngor, roedd Cadeirydd Pwyllgor Archwilio’r cyngor, y Cynghorydd Rowland Rees-Evans yn croesawu adroddiad diamod. Nododd fod y Datganiad o Gyfrifon yn dangos bil iechyd glân ac estynnodd ei longyfarchiadau i’r Gwasanaeth Cyllid a Chaffael ar gyflawni hyn o dan bwysau eithafol, yn enwedig o ystyried faint o waith a ddigwyddodd wrth ddosbarthu grantiau ar ddechrau'r flwyddyn ariannol hon.

Y Cynghorydd Gareth Lloyd yw’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Gyllid. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cymeradwyo cyfrifon sy’n dangos rheolaeth ariannol dda ac yn estyn fy niolch i’r holl staff a’r archwilwyr, yn ogystal a’r Pwyllgor Archwilio. Mae hyn yn hollbwysig mewn hinsawdd ariannol anodd iawn ar ôl blynyddoedd o doriadau i’n cyllidebau. Byddwn yn parhau i gynllunio ein cyllid yn ofalus i ddarparu’r gwasanaethau gorau posibl i drigolion Ceredigion yn y dyfodol.”

Adolygir cyfrifon y cyngor gan Archwilio Cymru bob blwyddyn i wneud yn siŵr eu bod yn dangos darlun cywir a theg. Maent hefyd yn sicrhau eu bod wedi’u paratoi’n briodol gyda gofynion deddfwriaethol.

Yn dilyn pleidlais, cymeradwywyd Datganiad Cyfrifon y Cyngor a Datganiad Cyfrifon Awdurdod Harbwr Ceredigion ar gyfer 2019/20. Mae’r datganiad o gyfrifon wedi’i gyhoeddi a gellir ei weld yma.

18/09/2020