O fis Ebrill eleni bydd gan warchodwyr ledled Ceredigion y cyfle i ddefnyddio adnodd arbennig Sachau Stori Cymraeg. Bwriad hyn yw i hybu datblygiad sgiliau Cymraeg plant y sir.

Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi bod yn gweithio gydag Uned Gofal Plant Cyngor Sir Ceredigion i ddatblygu pecynnau stori sy’n cynnwys stori Cymraeg/dwyieithog a phecyn o adnoddau a fydd ar gael i warchodwyr plant cofrestredig yng Ngheredigion. Mae’r prosiect wedi bod ar waith ers dwy flynedd. Bydd y pecynnau gorffenedig ar gael i warchodwyr y sir o 18 Mawrth. Bydd yr adnodd yn cael ei lansio yn swyddogol mewn sesiwn stori yn Awen Teifi, Aberteifi ar 3 Ebrill am 10yb.

Dywedodd Llinos Hallgarth, Swyddog Cered, “Mae hwn yn brosiect cyffrous wedi ei seilio ar gyfnod o gyd-weithio gyda gwarchodwyr y sir i sicrhau pecyn y bydd o fudd penodol iddyn nhw. Mae’r pecyn yn cynnwys stori yn ogystal â deunyddiau addysgiadol a all atgyfnerthu thema neu neges y stori, a hyn oll yn y Gymraeg.”

“Er mwyn annog defnydd ohonynt byddwn yn cynnal sesiynau ymarferol i warchodwyr ar draws y sir er mwyn iddynt gyfarwyddo gyda’r pecyn gorffenedig a dulliau o’i gyflwyno.”

Dywedodd Emma Poole o’r Uned Gofal Plant, “Bydd y Sachau Stori yma yn help mawr i’r gwarchodwyr Cymraeg a Di-gymraeg i geisio integreiddio’r Gymraeg mewn i fywyd bob dydd. Bydd y prosiect hwn yn helpu’r gwarchodwyr i gyflwyno’r Gymraeg mewn ffyrdd pleserus o fewn y cartref yn yr hir dymor.” 

Mae’r prosiect hyn yn atgyfnerthu’r gwaith mae’r Uned Gofal Plant yn ceisio gwneud i godi ymwybyddiaeth o ddefnyddio’r iaith Gymraeg o fewn lleoliadau gofal plant. Bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo lleoliadau i gwrdd â gofynion Arolygaeth Gofal Cymru a chefnogi’r ymdrech Llywodraeth Cymru i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Bydd 10 Sach stori ar gael i warchodwyr a bydd y rhain yn cael eu diweddaru yn gyson.   

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Llinos Hallgarth o Cered: Menter Iaith Ceredigion ar 01545 572 358 neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 01545 570 881 a gofynnwch i siarad ag Emma Poole yn yr Uned Gofal Plant.

20/03/2019