Bydd Ysgol Ardal newydd yn cael ei hadeiladu yn Nyffryn Aeron ar ôl i Gyngor Sir Ceredigion gymeradwyo cynnig i'w hadeiladu.

Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau a chyfarpar modern ar gyfer disgyblion oedran cynradd yn Nyffryn Aeron.

Bydd agor yr ysgol newydd yn arwain at gau tair ysgol gynradd yn Nyffryn Aeron. Bydd ysgolion cynradd Ciliau Parc, Felinfach a Dihewyd yn cau ddiwedd mis Awst 2022.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae'r penderfyniad hwn yn profi ein hymrwymiad i ddarparu addysg o ansawdd uchel gyda chyfleusterau modern. Bydd plant Dyffryn Aeron yn ffynnu gyda ffrindiau a chyfleoedd newydd. Rwy'n siŵr y bydd cymuned hapus a chlos yn datblygu'n fuan ar y campws newydd. Bydd yr ysgol newydd yn cyfoethogi Dyffryn Aeron.

“Mae'r ysgolion ardal sydd eisoes wedi eu hagor yng Ngheredigion yn profi llwyddiant mawr ac yn gwasanaethu'r plant a'r cymunedau yn rhagorol. Rwy'n siŵr na fydd Ysgol Ardal Dyffryn Aeron yn eithriad.”

Gwnaed y penderfyniad i gau'r ysgolion cynradd presennol ac agor yr Ysgol Ardal ar ôl ymgynghori’n helaeth gyda chymunedau yn Nyffryn Aeron. Disgwylir i'r ysgol newydd agor ym mis Medi 2022.

20/12/2019