Mae gwaith wedi cychwyn ar adeiladu llwybr newydd a rennir ar gyfer beicwyr a cherddwyr rhwng Bow Street a champws IBERS Prifysgol Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan. Mae’r gwaith yn cael ei wneud gan gontractwr lleol.

Mae'r gwaith yn cael ei ariannu gan grant o Lywodraeth Cymru ac arian cyfatebol gan Gyngor Sir Ceredigion; disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth. Mae ardaloedd cynefinoedd bywyd gwyllt ac ailblannu wedi'u hymgorffori yn y cynllun. Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, bydd y rhan hon o'r llwybr yn darparu llwybr mwy diogel i gerddwyr a beicwyr rhwng Plas Gogerddan a phrosiect Trafnidiaeth Cymru yn Bow Street. Bydd hyn yn darparu cyfnewidfa a gorsaf reilffordd newydd yn Bow Street. Bwriedir i hyn agor yng Ngwanwyn 2020.

Dywedodd Cynghorydd Dafydd Edwards, yr aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Fel cyngor, un o'n prif flaenoriaethau yw sicrhau diogelwch y cyhoedd a gyda'r llwybr newydd hwn bydd yn cynyddu hygyrchedd a diogelwch. Bydd y llwybr newydd hwn yn cynyddu'r defnydd o feiciau yn yr ardal”

Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth ar gynigion Cam 2 er mwyn datblygu'r llwybr tuag at Benrhyncoch yn y flwyddyn ariannol nesaf.

30/01/2019