Mae £460,000 wedi cael ei ddyrannu dros ddwy flynedd at adfer Neuadd y Farchnad yn Aberteifi.

Fe benderfynodd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i ddarparu’r arian i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi ar 30 Gorffennaf 2019.

Mae Neuadd y Farchnad yn Aberteifi yn adeilad rhestredig Gradd II yng nghanol Aberteifi. Mae’n gartref i’r farchnad dan do gyda lle i 49 o stondinau marchnad. Mae’n eiddo i’r cyngor ac yn cael ei reoli gan Fenter Aberteifi o dan gytundeb rheoli tair blynedd.

Mae gwaith diweddar i’r adeilad wedi dangos y bydd y gwaith sydd angen ei wneud i adfer y neuadd yn costio bron i £1.5m. Mae ceisiadau wedi cael eu cyflwyno i dalu am y gwaith. Er bod £990,000 o arian yr UE wedi’i sicrhau, roedd angen i’r cyngor ddarparu’r arian ychwanegol ar ôl i gais am Gyllid Loteri Treftadaeth gael ei wrthod.

Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio. Dywedodd, “Mae’n bwysig iawn ein bod ni wedi cytuno i dalu £460,000 am y prosiect gan ei fod yn dod â £990,000 arall i’r ardal. Pe na baem wedi gwneud hyn, byddai Ceredigion wedi colli bron £1m o gyllid allanol, ac ni fyddai’r neuadd yn cael y gwaith y mae ei angen yn ddybryd.”

Cymeradwyodd y Cabinet dalu hyd at £460,000 tuag at adfer a gwella’r neuadd yn amodol ar y telerau a’r amodau priodol a chytundebau cyfreithiol. Mae’r arian hefyd yn dibynnu ar sicrhau arian grant perthnasol a datrys yr holl drefniadau rheoli eiddo a phrosiect.

31/07/2019