Ym mis Awst, cyflwynwyd gorchmynion traffig dros dro fel y gallai’r Parthau Diogel ar gyfer pedair tref yng Ngheredigion barhau am hyd at 18 mis yn amodol ar adolygiadau rheolaidd fel y gellir gwneud mân addasiadau.

Yn unol â’r dystiolaeth a gasglwyd ynghylch y defnydd a wneir o’r trefi, mae Cyngor Sir Ceredigion yn teimlo bod angen cadw’r parthau diogel am y tro. Bydd Aberaeron a Cheinewydd yn parhau fel y maen nhw.

Yn Aberteifi, bydd amseroedd cau’r ffyrdd yn newid i 11am tan 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Ni fydd y parthau diogel ar waith ar ddydd Sul yn Aberteifi. Daw’r addasiadau hyn i rym ar fore dydd Sul 04 Hydref.

Yn Aberystwyth, darparwyd llefydd parcio ychwanegol i’r anabl a deiliaid bathodynnau glas ar Y Ffynnon Haearn ger Siop Symudedd y Gymdeithas Gofal.

Bydd gwelliannau pellach i ddarparu gwell mynediad i’r anabl a deiliaid bathodynnau glas hefyd yn parhau i gael eu harchwilio.

Cyflwynwyd parthau diogel yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Cheinewydd ar 13 Gorffennaf er mwyn creu trefi diogel ac ardaloedd eang i'r cyhoedd ymweld â nhw a rhoi hyder y gellir cynnal pellter cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn.

Bydd y parthau diogel ar waith tan o leiaf 01 Tachwedd 2020 a byddant yn cael eu hadolygu bob pythefnos yn unol â’r gyfradd heintio a’r dystiolaeth sydd ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen we ynglŷn â’r parthau diogel.

29/09/2020