Mae addasiadau ar gyfer Parthau Diogel Ceredigion ar y gweill ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Pwrpas allweddol y Parthau Diogel a mesurau eraill a gyflwynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yw helpu i amddiffyn iechyd ein cymuned trwy leihau’r risg o’r coronafeirws. Ym mis Awst cyflwynwyd gorchmynion traffig dros dro fel y gallai Parthau Diogel mewn pedair tref yng Ngheredigion aros yn eu lle am hyd at 18 mis yn amodol ar adolygiadau rheolaidd fel y gellir gwneud addasiadau.

Mae'r trefniadau ar gyfer parthau diogel Ceredigion ar gyfer y Flwyddyn Newydd fel a ganlyn:

  • Yn Aberystwyth, Aberteifi a Chei Newydd, bydd y ffyrdd a arferai gael eu cau bob dydd yn parhau ar agor.
  • Yn Aberaeron, bydd y trefniadau parthau diogel cyfredol yn aros yn eu lle.

Rhaid bod yn ofalus a sicrhau bod mesurau priodol ar waith i ddiogelu pobl yn ein Sir. Mae'r addasiadau hyn yn ystyried ystod eang o wybodaeth gan gynnwys adborth a dderbyniwyd, yr amser o'r flwyddyn a'r cyfnod cloi cenedlaethol.

Bydd data yn parhau i gael ei fonitro fel bod gweithrediad y Parthau Diogel yn cael ei adolygu o hyd. Mae'n debygol y bydd y newidiadau uchod ar waith tan 01 Chwefror 2021.

Mae mwy o wybodaeth i'w gweld ar dudalen we'r Parthau diogel.

Mae'r parthau diogel yn unol a Strategaeth y Gaeaf Cyngor Sir Ceredigion i amddiffyn iechyd a lles y rhai mwyaf agored i niwed ac i alluogi'r economi leol i oroesi misoedd y gaeaf.

21/12/2020