Yn ystod y flwyddyn academaidd 2018-19, cafodd chwe sefydliad nas cynhelir a saith ysgol ar eu harolygu yng Ngheredigion gan Estyn – oedd i gyd yn derbyn naill ai ‘Da’ neu ‘Rhagorol’ yn eu perfformiad cyfredol a rhagolygon gwella yn y pum maes arolygu.

Estyn yw Arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Y pum maes a arolygwyd gan Estyn yn y sefydliadau oedd: Safonau; Lles ac agweddau at ddysgu; Addysgu a phrofiadau dysgu; Gofal, cymorth ac arweiniad ac Arweinyddiaeth a rheolaeth.

Y sefydliadau nas cynhelir a chafodd eu harolygu oedd Llechryd, Aber-porth WPPA (Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru), Mes Bach, Llanarth, Talgarreg a Camau Bach.

O’r 15 o farnau a nodwyd gan Estyn ar gyfer sefydliadau nas cynhelir yn ystod 2018-19, roedd 26% yn ‘Ardderchog’ a 74% yn ‘Dda’. Ni farnwyd bod unrhyw sefydliadau nas cynhelir yn ‘Ddigonol ac angen gwella’ nac yn ‘Anfoddhaol ac angen gwelliant brys’.

Yr ysgolion a chafodd eu harolygu oedd Dihewyd, Llwyn yr Eos, Bro Teifi, Dyffryn Cledlyn, Llanarth, Aberaeron a Mynach.

O’r 35 o farnau a nodwyd gan Estyn ar gyfer ysgolion yn ystod 2018-19, roedd 37% yn ‘Ardderchog’ a 63% yn ‘Dda’. Ni farnwyd bod unrhyw ysgol yn ‘Ddigonol ac angen gwella’ nac yn ‘Anfoddhaol ac angen gwelliant brys’.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw'r aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd: "Mae'r ffigyrau positif yma yn dyst i'r ysgolion, meithrinfeydd a lleoliadau cylch chwarae yng Ngheredigion. Ar ran y Cyngor, mae canmoliaeth yn ddyledus i'r holl staff a phawb sy'n gysylltiedig sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein plant yn derbyn y ddarpariaeth addysg orau bosibl."

24/09/2019