Cyhoeddwyd ad-drefniant portffolios y Cabinet yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 18 Mai 2018. Gwnaethpwyd y cyhoeddiad gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn.

Doedd dim newid i aelodaeth y Cabinet. Mae’r portffolios Cabinet newydd fel y ganlyn:
• Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Arweinydd y Cyngor) - Polisi a Pherfformiad, Partneriaethau a Gwasanaethau Democrataidd
• Y Cynghorydd Ray Quant MBE (Dirprwy Arweinydd y Cyngor) - Cyswllt Cwsmeriaid, Gwasanaethau Cyfreithiol a Llywodraethu, Pobl a Threfniadaeth
• Y Cynghorydd Dafydd Edwards - Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai
• Y Cynghorydd Rhodri Evans - Yr Economi ac Adfywio
• Y Cynghorydd Catherine Hughes - Gwasanaethau Plant a Diwylliant
• Y Cynghorydd Gareth Lloyd - Gwasanaethau Cyllid a Chaffael a Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd
• Y Cynghorydd Catrin Miles - Gwasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes
• Y Cynghorydd Alun Williams - Gwasanaethau Oedolion

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae gennym ni dîm cryf o gynghorwyr profiadol a galluog yn gwasanaethu ar Gabinet y Cyngor i ddarparu’r canlyniadau gorau phosib i Geredigion ar ôl blynyddoedd o doriadau llym sydd wedi eu gosod ar y Cyngor. Bydd y dosbarthiad newydd o bortffolios Cabinet yn sicrhau perthynas gweithio agos ac effeithiol; rhwng aelodau Cabinet a staff y Cyngor.”

Mae’r ad-drefniant yn dilyn cwblhâd y cam cyntaf o ailstrwythuro y Cyngor. Mae’r ad-drefniant portffolios Cabinet yn bwriadu gwell alinio portffolios Cabinet gyda strwythur newydd gwasanaethau’r Cyngor.

18/05/2018