Cadarnhawyd achosion positif pellach o COVID-19 yng Nghartref Gofal Preswyl Min y Mor, Aberaeron. Mae sawl aelod o staff a phob preswylydd eisoes wedi profi'n bositif. Mae'r holl breswylwyr yn parhau i gael eu monitro'n ofalus.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal y feirws rhag lledaenu yn y Cartref ac i roi cymorth i staff a thrigolion y Cartref.

Mae'r Cartref wedi cysylltu â theuluoedd y preswylwyr a mae’r staff yn darparu diweddariadau rheolaidd i bob teulu dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Mae hon yn sefyllfa heriol iawn i'r Cartref ac rydym yn ddiolchgar i'r gymuned am ei chefnogaeth. Fodd bynnag, gofynnwn i ffrindiau’r preswylwyr beidio â ffonio'r Cartref fel y gallwn gadw'r llinell ffôn yn rhydd i deuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol i gallu cysylltu.

Mae gofalu am drigolion ein cartrefi gofal o'r pwysigrwydd mwyaf i Gyngor Sir Ceredigion. Rydym yn sylweddoli bod hwn yn adeg anodd o'r flwyddyn pan fyddwn i gyd am weld ein hanwyliaid. Ond, mae ymweliadau â Chartrefi Gofal yng Ngheredigion yn parhau i gael eu hatal ac mae preswylwyr yn cael cymorth i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau dros y ffôn a galwadau fideogynadledda / skype. Derbyniwyd sawl anrheg dros y dyddiau diwethaf yn y lleoliadau i adael parseli a rhoddir y rhain i breswylwyr ar Ddydd Nadolig.

Mae cadw pellter cymdeithasol yn bwysicach nag erioed ynghyd â golchi’n dwylo’n rheolaidd ac yn gwisgo gorchudd wyneb pan nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae’n rhaid i bawb sy'n datblygu unrhyw un o symptomau COVID-19 ddilyn y canllawiau hunan ynysu a threfnu prawf cyn gynted â phosibl, a’r unig adeg y dylent adael eu cartrefi yw er mwyn cael prawf.

Rydym yn hynod ddiolchgar am y cydweithrediad a ddangoswyd gan staff, preswylwyr cartrefi gofal, eu teuluoedd ac aelodau o'r cyhoedd wrth i ni gymryd pob cam i gadw trigolion Ceredigion yn ddiogel ac yn iach.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar ein gwefan.

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

Ni fydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu ar y mater hwn.

22/12/2020