Mae Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Dyffryn Cledlyn wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth Ffilm Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2023.
Enillodd Ysgol Bro Teifi y wobr gyntaf yn y categori cynradd gyda'u fideo ‘Dyma'n llais ni', a daeth Ysgol Dyffryn Cledlyn yn ail.
Ar Ddiwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, 07 Chwefror 2023, cafodd disgyblion blwyddyn 3 a 4 Ysgol Bro Teifi a gymerodd ran yn y fideo wahoddiad i seremoni wobrwyo a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
Pwrpas y diwrnod yw hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol. Thema’r diwrnod eleni oedd ‘Gwneud lle i sgyrsiau am fywyd ar-lein’.
Dyma un neges cafodd ei bwysleisio yn y ffilm:
- Siaradwch am eich profiadau
- Gofynnwch am gymorth wrth ffrindiau neu oedolion
- Cefnogwch eich ffrindiau ar-lein
- Dangoswch barch at farn pobl eraill
- Peidiwch ag ofni rhoi gwybod
Dywedodd Mr Robert Jenkins, Pennaeth Ysgol Bro Teifi: "Rydym yn falch iawn o'n disgyblion am bwysleisio neges hynod bwysig a hoffwn ddiolch i'r holl staff am eu cefnogaeth ac am roi cyfleoedd gwahanol i'n disgyblion gymryd rhan ynddo.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth: “Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Dyffryn Cledlyn. Mae'n wych gweld dwy ysgol yng Ngheredigion yn cyrraedd y brig. Mae’r neges yma yn un bwysig, yn enwedig gan fod y We a’r cyfryngau cymdeithasol mor hygyrch y dyddiau hyn.”
Gwyliwch ffilm Ysgol Bro Teifi yma: hwb.gov.wales/repository/resource/9062c0d1-6f19-47c8-9075-d92e70cdb4e5/cy ac Ysgol Dyffryn Cledlyn yma:hwb.gov.wales/repository/resource/cb758465-9180-4ce1-945b-bf9f6f7b5006/cy
16/02/2023