Mae trigolion Ceredigion yn cael eu hannog i gymryd gofal heddiw oherwydd yr eira a'r rhew.
Bu criwiau yn trin y prif ffyrdd dros nos a bydd y sefyllfa yn cael ei asesu'n barhaus heddiw.
Cynghorir y cyhoedd i fod yn hynod ofalus.
Gellir gweld unrhyw aflonyddwch i gasgliadau gwastraff ar dudalen Aflonyddwch i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff.
18/01/2023