09.03.2023, 13:00yp
Mae'r A44 bellach wedi ailagor rhwng Aberystwyth a Llangurig.
09.03.2023, 9:10yb
Mae amodau gyrru anodd ar yr A44 ger Eisteddfa Gurig a Phonterwyd, yn dilyn yr eira dros nos.
Cymrwch ofal wrth deithio arni ac ar unrhyw ffyrdd eraill ar dir uchel. Mae ein criwiau dal allan yn graeanu yng ngogledd y sir.
08.03.2023
Ni’n disgwyl eira a rhew yn rhannau o Geredigion y prynhawn yma a gyda’r nos, cyn llacio’n raddol dros nos.
Bydd ein criwiau yn graeanu’r rhwydwaith ffyrdd yn ystod y dydd a dros nos.
Cymrwch ofal, yn enwedig mewn llefydd heb eu trin. Mae posibilrwydd y bydd effaith ar rai o wasanaethau rheng-blaen gan fod yna angen i adleoli staff i helpu gyda’r graeanu.
Cadwch olwg ar ragolygon y tywydd cyn mentro allan.
08/03/2023