Mae’r Gyllideb ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei chymeradwyo yn ystod cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau, 02 Mawrth 2023.

Gosodwyd Cyllideb o £180.1m ar gyfer 2023-2024. Fel pob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru, mae Cyngor Sir Ceredigion yn wynebu pwysau ariannol sylweddol a digynsail, gyda diffyg o £12m rhwng y cyllid ychwanegol a ddarperir gan Llywodraeth Cymru a’r £22m o bwysau o ran y costau sy’n ofynnol i barhau i ddarparu ystod eang ac amrywiol o wasanaethau.

O ganlyniad, cymeradwywyd y bydd elfen y Cyngor Sir o’r Dreth Gyngor yn codi 7.3%. Ar gyfer eiddo Band D cyffredin, bydd hyn yn golygu £8.81 ychwanegol y mis neu £2.03 yr wythnos. O gyfanswm y cynnydd, mae 6.0% yn ymwneud â gwasanaethau craidd y Cyngor ac mae 1.3% i ariannu’r cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Yn gyffredinol, nid yw’r pwysau o ran y costau rydym yn eu hwynebu yn unigryw i Geredigion ac maent yn adlewyrchu’r hinsawdd economaidd bresennol. Mae’r Gyllideb ar gyfer 2023-2024 wedi cael ei gosod gyda’r bwriad o ddiogelu gwasanaethau ac osgoi toriadau gymaint â phosibl ac mae’r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi’i gadw ymhell islaw’r gyfradd chwyddiant bresennol i gydnabod yr heriau y mae pawb yn eu hwynebu gyda chostau byw. Rydym eisoes wedi gwneud arbedion sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a byddwn yn parhau i chwilio ffyrdd o wneud pethau’n wahanol. Bydd ein blaenoriaeth bob amser ar ddarparu gwasanaethau o safon uchel i bobl Ceredigion a sicrhau eu bod yn bodloni gofynion rheoleiddio allanol.”

Yn ychwanegol at gymeradwyo’r Gyllideb, cymeradwyodd y Cyngor hefyd yn ystod yr un cyfarfod y lefelau cyffredinol o ran y Dreth Gyngor ar gyfer 2023-2024 i bob Ward a phob Band o’r Dreth Gyngor, sy’n cynnwys y praeseptau a osodwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned a Heddlu Dyfed Powys. Pan fydd y praeseptau hyn wedi’u cynnwys, y cynnydd cyffredinol cyfartalog yn y Dreth Gyngor fydd 7.4%.

Cofiwch fod Cymorth ar gael trwy ein Cynllun Budd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma, a gwirio a ydych yn gymwys: Budd-dal tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor 

Gallwch hefyd ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570881 neu anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk am help a chymorth.

02/03/2023