O 30 Mai 2023, bydd cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gallu cael clinigau ffisiotherapi ar gyfer cleifion allanol ar lawr gwaelod adeilad Canolfan Rheidol yn Aberystwyth.

Yn dilyn gweithredu Strategaeth Gweithio Hybrid a Pholisi Hybrid Dros Dro Cyngor Sir Ceredigion, mae yna gyfleoedd sylweddol i ad-drefnu a gwneud gwell defnydd o ofod swyddfa’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eraill trwy weithio gyda sefydliadau partner.

Mae’r cyntaf o’r cyfleoedd hyn yn gweld cytundeb rhwng y Cyngor a Hywel Dda i alluogi rhan o Ganolfan Rheidol i gael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau ffisiotherapi. Bydd hyn ar sail dros dro ta bydd y cyfnod prawf hybrid yn mynd rhagddo, a thra bydd y Cyngor yn ystyried y defnydd amgen gorau yn yr hirdymor ar gyfer ei ofod swyddfa.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithredu mewn rhan o’r llawr gwaelod ar gyfer clinigau a drefnir yn unig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies: “Trwy addasu’r modd yr ydym yn gweithio, gallwn alluogi’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau modern a fydd yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol pobl Ceredigion, sy’n atgyfnerthu’r blaenoriaethau a osodwyd yn ein Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-2027. Rydym yn falch i allu gweithio gyda’n partneriaid yn Hywel Dda, gan eu galluogi i ddarparu eu gwasanaethau ffisiotherapi mawr eu hangen gyda chyfleusterau modern, sy’n addas i'r diben.”

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Dda: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i alluogi’r bwrdd iechyd ddod â gwasanaethau clinigol yn nes at drigolion yng ngogledd Ceredigion, gan ategu at weledigaeth strategol y bwrdd iechyd i ddod â gwasanaethau yn nes at gymunedau lleol a’u cefnogi i fyw bywydau egnïol ac iach.

“Bydd y bwrdd iechyd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau aml-genhedlaeth o Ganolfan Rheidol, gan gynnwys gwasanaeth ffisiotherapi cyhyrysgerbydol i gleifion allanol, clinigau ar gyfer cleifion yn byw gyda lymffoedema, gwasanaethau therapi amlddisgyblaethol i gleifion sy’n fregus gyda’r risg o gwympo, a gwasanaethau therapi pediatrig. Mae ein timau yn gyffrous i symud i mewn i'r cyfleuster gwych hwn a gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion ar y daith hon tuag at ffordd mwy integredig o weithio.”

Gall trigolion Ceredigion sydd am gael gwasanaethau’r Cyngor wneud hynny trwy gysylltu â thîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic trwy’r dulliau canlynol:

  • Gwefan: www.ceredigion.gov.uk
  • Ffôn: 01545 570881
  • E-bost: clic@ceredigion.gov.uk
  • Wyneb yn wyneb: galw heibio un o’r hybiau gwasanaethau i gwsmeriaid sydd wedi’u lleoli yn llyfrgelloedd y dref yn Aberaeron, Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan

Nodiadau:

Cynhaliodd y Cyngor arolwg ymgysylltu yn ddiweddar i ofyn i'r cyhoedd am eu barn o ran sut y gellid defnyddio adeiladau’r Cyngor yn y dyfodol. Mae hyn yn cael ei asesu ar hyn o bryd a rhoddir sylw iddo pan fydd y Cyngor yn adolygu llwyddiant y trefniadau gweithio hybrid yn ystod y cyfnod prawf 12 mis.

31/05/2023