Erbyn mis Medi 2023, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol ar ffyrdd cyfyngedig/preswyl ledled Cymru yn newid o 30 mya i 20 mya.

Mae hon yn ddeddfwriaeth gan Llywodraeth Cymru ac, yn ystod cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023, bu Cynghorwyr Ceredigion yn trafod y cynlluniau ar gyfer y sir.

Gan nad oes gan yr un ffordd yng Ngheredigion statws cyfyngedig, bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno drwy’r broses Gorchymyn Rheoleiddio Traffig. Bydd hyn yn golygu y byddwn yn ymgynghori’n gyhoeddus ar bob trefniant newydd o ran terfynau cyflymder, gan gynnwys hysbysebu ar y safle, yn y wasg ac ar wefan y Cyngor. Bydd yr holl fanylion i'w gweld ar ein gwefan unwaith bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau: Gorchmynion Rheoleiddio Traffig 

Mae rhan gyntaf y broses ymgynghori eisoes wedi’i gwblhau gydag ymatebion wedi’u casglu gan Gynghorau Cymuned.

Ledled Ceredigion, mae 370 o leoliadau wedi cael eu nodi ar gyfer y newid.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda i baratoi ar gyfer y terfyn cyflymder newydd o 20 mya a fydd yn cael ei gyflwyno gan Llywodraeth Cymru ym mis Medi. Rydym eisoes wedi bod mewn cyswllt â Chynghorau Cymuned ac wedi gwneud newidiadau yn unol â hynny, a gallwn edrych ymlaen nawr at gyhoeddi’r mapiau newydd i’r cyhoedd eu gweld. Mae hwn yn gynllun cenedlaethol ac rydym yn falch i'w gefnogi er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd, lleihau difrifoldeb anafiadau ac annog Teithio Llesol a Chynaliadwy.”

Ar gyfer unrhyw ymholiadau lleol, cysylltwch â gwasanaeth i gwsmeriaid CLIC ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth am Orchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 ar gael yma: Cyflwyno Terfynau Cyflymder Diofyn 20 mya 

15/02/2023