Mynegwyd cydymdeimladau dwysaf yn dilyn marwolaeth cyn-Arweinydd a chyn-Gynghorydd Sir Ceredigion, Mr Dai Lloyd Evans.

Darparodd wasanaeth hirsefydlog i Geredigion a’i thrigolion am flynyddoedd lawer yn cynrychioli ward Lledrod, a bu’n Arweinydd y Cyngor rhwng 1996 a 2006.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies: “Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Mr Dai Lloyd Evans yn eu galar. Mawr yw dyled Ceredigion i’r gŵr hwn a roddodd o’i orau i'r sir hon bob amser, gan wasanaethu fel Arweinydd y Cyngor am ddeng mlynedd.”

Y Cynghorydd Ifan Davies yw Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion. Ef oedd olynydd Mr Dai Lloyd Evans yn ward Lledrod yn 2008 yn dilyn ei ymddeoliad fel Cynghorydd Sir. Dywedodd y Cadeirydd: “Gyda thristwch mawr derbyniom y newyddion am farwolaeth Mr Dai Lloyd Evans; dyn a roddodd gymaint i Lywodraeth Leol drwy gydol ei oes. Braint oedd cael dilyn yn ôl ei droed yn ward Lledrod yn 2008.”

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor, fod y cyn-Arweinydd Dai Lloyd Evans “wedi rhoi ei fywyd i Lywodraeth Leol am flynyddoedd lawer ac y mae cymaint wedi elwa o’i wybodaeth helaeth a’i weledigaeth. Bu’n Arweinydd cadarn a oedd yn allweddol wrth arwain y Cyngor dros y blynyddoedd cyntaf o dan y weinyddiaeth newydd nôl yn 1996. Roedd ei filltir sgwâr yn hynod bwysig iddo ond yr un oedd ei angerdd tuag at y sir, a’i frwdfrydedd at ein hiaith a’n diwylliant. Bu ei gyfraniad yn amhrisiadwy ac y mae Ceredigion yn dlotach hebddo. Estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’w briod, Margaret, a’r teulu oll yn eu profedigaeth.”  

Bydd gwasanaeth angladdol cyhoeddus yn Eglwys Sant Caron, Tregaron, ddydd Gwener, 3 Mawrth, 2023 am 1 o’r gloch ac i ddilyn yn Breifat yn Amlosgfa Aberystwyth.

Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof os dymunir tuag at Tir Dewi trwy law Tom Eurfyl Jones a’i fab, Trefnwyr Angladdau, Lleifior, Pentre, Tregaron, SY25 6NB

27/02/2023