Eleni rydym yn nodi pymtheg mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion yn swyddogol.

I ddathlu’r pen-blwydd mae cyfres o gylchdeithiau cerdded wedi cael eu creu ac ar gael ar wefan y Cyngor, a chyhoeddir taith bob wythnos ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol hyd nes yr hydref.

Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf bydd Tîm Llwybrau Cyhoeddus y Cyngor yn arwain cyfres o chwe thaith tywys a fydd yn cynnwys rhannau o Lwybr yr Arfordir. 

Bydd y teithiau cerdded hyn yn dechrau mewn gwahanol fannau ar hyd yr arfordir ac yn amrywio o ran eu hyd, eu her, a’r tirwedd, felly dylai fod rhywbeth at ddant pawb. Byddant yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle, dim ond ymuno.

Dywedodd Nigel Nicholas, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru: “Rydym yn gwybod fod Llwybr yr Arfordir yn boblogaidd tu hwnt gyda’r rheiny sy’n ymweld â’r sir a’r rheiny sy’n byw yma. Gyda’r cylchdeithiau hyn y gobaith yw lledaenu ei boblogrwydd i mewn i’r tir o’r stribyn arfordirol. Mae cerdded llwybr cylchol yn ei gwneud hi gymaint yn haws o ran logisteg. Parciwch y car neu ddal y bws i’ch man dechrau a cherddwch y gylchdaith i fan lle ddechreuoch chi.

“Drwy gynnig y teithiau cerdded tywys rydym yn gobeithio denu cerddwyr newydd i'r llwybr – efallai’r rheiny sydd heb yr hyder i fwrw mas ar dramp, neu heb gydymaith cerdded, neu’r rhai sydd angen bach o anogaeth i fynd allan ac archwilio’r wlad.”

Yn lansio’r gyfres o deithiau tywys y mae taith gerdded yn ardal y Borth ar 21 Mehefin, gan gychwyn o faes parcio Ynys Las am 6pm. Bydd dau lwybr ar gael – un byr 1-2 filltir sydd wedi ei graddio fel un ‘hawdd’ a thaith hirach, 4-5 milltir ar gyflymder hamddenol.

Bydd angen i’r sawl sydd am gymryd rhan gyrraedd 15 munud cyn i’r daith ddechrau gan wisgo esgidiau cadarn a dillad sy'n addas i'r tywydd a chario dŵr yfed ac unrhyw fwyd fydd ei angen.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio: “Dyma ffordd wych o weld llefydd pert dirgel sy’n cael eu colli yn fynych wrth ddilyn yr arfordir. Hefyd, cwrdd â phobl newydd sy’n rhannu’r un diddordeb, a gwella llesiant a ffitrwydd, oll yn nwylo diogel ein Harweinwyr Teithiau.”

Gellir gweld disgrifiadau o’r teithiau yn y tabl isod. Dewiswch daith sy’n briodol i’ch iechyd a’ch ffitrwydd.

 

Lleoliad/Man dechrau

 

Dyddiad

 

Amser

 

Disgrifiad a gradd y Llwybr

 

 

Y Borth/Ynys Las

Dechrau: Maes parcio CNC (ffi yn daladwy)

 

Dydd Mercher, 21 Mehefin

 

18:00

Dewis 1 – 1-2 filltir, hawdd. Arwynebau amrywiol gan gynnwys tywod, porfa, trac a grisiau.

Dewis 2 – 4-5 milltir, hamddenol. Arwynebau amrywiol gan gynnwys tywod, porfa, trac, croesi ffyrdd, croesi rheilffordd, a grisiau.

 

Aberystwyth

Dechrau: Y Bandstand

 

Dydd Sadwrn, 01 Gorffennaf

 

13.00

Dewis 1 – 2.5 milltir sy’n cynnwys Craig Glais, Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais. Taith gerdded fer gyda dringfeydd serth ac arwynebau amrywiol.

Dewis 2 – 4 milltir o gylchdaith sy’n cynnwys Craig Glais, Bae Clarach, Coed y Cwm, Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais. Golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. Rhai dringfeydd serth ac arwynebau amrywiol gan gynnwys grisiau.

 

Aberaeron

Dechrau: Pont gerdded Pwll Cam, Harbwr Aberaeron.

 

Dydd Mercher, 05 Gorffennaf

 

18:00

Dewis 1 – 0.5-1 filltir, cylchdaith yn dilyn afon Aeron a dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Hawdd ond gydag arwyneb anwastad mewn mannau.

Dewis 2 – 5-6 milltir i Lanerchaeron, Aberarth a dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Cymhedrol gydag amrywiaeth o dirwedd ac arwynebau.

 

Ceinewydd

Dechrau: Toiledau cyhoeddus wrth yr harbwr.

 

Dydd Sadwrn, 15 Gorffennaf

 

13:00

Cylchdaith i Gwm Soden a Chwm Tydu ac yn ôl. 7-8 milltir. Cymhedrol ond sawl dringfa serth ac amrywiaeth o dirwedd ac arwyneb. Clogwyni uchel.

 

Llangrannog

Dechrau: Canolfan yr Urdd.

 

Dydd Mercher, 19 Gorffennaf

 

18:00

Dewis 1 – Taith gerdded fer. Cylchdaith, neu mewn llinell gyda bws yn ôl. Hawdd.

Dewis 2 – 5-6 milltir, cylchdaith gymhedrol o amgylch Llangrannog gan gynnwys Ynys Lochtyn.

Aberteifi

Dechrau: Maes parcio’r Netpool (talu ac arddangos)

 

Dydd Sadwrn, 29 Gorffennaf

 

13.00

13 milltir, cylchdaith i’r Ferwig, Mwnt ac yn ôl. Cymhedrol gydag amrywiaeth o arwynebau.

Bydd cerddwyr yn cymryd rhan ar eu cyfrifoldeb eu hunain ac mae’r arweinwyr yn cadw'r hawl i ofyn i unrhyw un adael os ydynt yn teimlo mai dyna’r peth gorau er lles yr unigolyn neu'r grŵp. Rhaid i bawb o dan ddeunaw oed fod yng nghwmni oedolyn. Mae croeso i gŵn ar dennyn ymuno, a disgwylir i berchnogion gasglu unrhyw wastraff a’i roi mewn cwdyn. Gan fod y rhan fwyaf o’r llwybrau yn croesi tir preifat ac amaethyddol, mae'n debygol y byddwch yn dod ar draws da byw ar bob taith gerdded.

I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfres o deithiau ar Lwybr yr Arfordir, ewch i https://bit.ly/TeithiauCerddedLlwybryrArfordir neu gadwch olwg ar ein cyfryngau cymdeithasol i weld ein teithiau arfordirol wythnosol. Ar Facebook ewch i Cyngor Sir Ceredigion, @CSCeredigon ar Twitter a @CaruCeredigion ar Instagram.

25/05/2023