Mae dyn ifanc a ddaeth i'r DU fel ffoadur o Wcráin wedi dod o hyd i gartref a swydd sefydlog yn Aberystwyth ar ôl cael cymorth gan dîm Cymunedau am Waith+ Ceredigion, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

I nodi Wythnos Ffoaduriaid, a gynhelir rhwng 19 a 25 Mehefin, dyma stori Andrii Llnitskiy.

Daeth Andrii, sy’n 22 mlwydd oed, i Aberystwyth fel ffoadur ac mae nawr yn byw gyda theulu lleol. Cyn symud i'r DU, bu’n gwneud rhai swyddi cynnal a chadw cyffredinol, ac roedd yn mwynhau hynny’n fawr. Ym mis Ionawr 2023, daeth i gyswllt â thîm Cymunedau am Waith+ Ceredigion a derbyniodd gymorth i wneud cais am swydd yn ei gartref newydd.

Cyfarfu aelodau o dîm Cymunedau am Waith+ ag ef i drafod ei ddyheadau a’i anghenion a daeth i'r amlwg fod ganddo ffocws mawr ar gael swydd ac roedd yn agored i awgrymiadau. Fodd bynnag, roedd iaith yn rhwystr gan ei fod dal yn dysgu Saesneg. Derbyniodd gymorth i wneud cais am rôl lanhau gyda M&S, ac mae bellach yn gweithio 18 awr yr wythnos yn y siop yn Aberystwyth.

Helpodd Misha Homayoun-Fekri, Mentor Cymunedau am Waith+ Ceredigion, Andrii. Dywedodd: “Roedd hi’n amlwg i mi y byddai’n fodlon gwneud unrhyw swydd bron, a mynychodd bob apwyntiad y gwnaethom ei drefnu, gan gynnwys ateb negeseuon testun ac e-bost. Yn ystod ein cyfarfodydd ag Andrii, fe wnes i ei gefnogi i lunio CV a’i gynorthwyo gyda cheisiadau am swydd. Ceisiais feddwl y tu allan i'r bocs ac ystyried opsiynau gwaith a fyddai’n empathetig i'r rhwystrau iaith a chyflogwyr a allai gyflogi ffoaduriaid. Fel ei swydd gyntaf yn y DU, rwy’n hynod o falch o Andrii. Os yw’n gallu cadw ato wrth barhau i ddysgu, gallai symud ymlaen ymhen amser. Fel hyn, gall wneud ffrindiau ac ymarfer ei sgiliau iaith ag aelodau eraill o’r staff, a thrwy hynny wella ei hyder a’i les, yn enwedig gan ei fod yn newydd i'r DU.”

Wrth adlewyrchu ar ei brofiad, dywedodd Andrii: “Diolch am fy helpu i gael swydd dda mewn gwlad arall. Rwy’n fodlon, mae’r amodau wir yn rhagorol.”

Y Cynghorydd Bryan Davies yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Ddysgu a Datblygu ac Adsefydlu Ffoaduriaid. Dywedodd: “Wrth i ni nodi Wythnos Ffoaduriaid rhwng 19 a 25 Mehefin, dyma stori ysbrydoledig unwaith eto. Hoffwn longyfarch Andrii yn ddiffuant ar ei ymdrechion a’i rôl newydd. Dyma enghraifft wych o’r cymorth sydd ar gael trwy’r cynllun Cymunedau am Waith+. Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth gyda chyflogaeth i holi am gymorth a chyngor gan y tîm rhagorol hwn.”

Ariennir y cynllun Cymunedau am Waith+ gan Llywodraeth Cymru ac mae’n cynnig hyfforddiant, cymwysterau, lleoliadau gwirfoddoli, cyfleoedd profiad gwaith â thâl a gwasanaeth mentora personol i helpu pobl i mewn i gyflogaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu yng Ngheredigion, ewch i dudalen We Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion: Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion 

Gallwch hefyd gysylltu ag aelod o’r tîm trwy anfon e-bost i TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01970 633040

01/06/2023